Enghraifft o'r canlynol | part of speech |
---|---|
Math | gair, content word |
Rhan o | word order |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gair sy'n mynegi gweithred neu fod neu gyflwr yw berf.[1] Diffiniad naïf fyddai mai gair "gwneud (rhywbeth)" yw berf. Daw'r gair Cymraeg ei hun o'r gair Lladin verbum ('Y Gair').[2]
Gall ffurf berf newid er mwyn dangos person, rhif, amser, a amser yn y Gymraeg. Mewn ieithoedd eraill, gall ddangos priodweddau eraill megis cenedl. Er enghraifft, dyma pob ffurf posib y berf "caru" mewn Cymraeg ffurfiol gyfoes:
Unigol | Lluosog | ||
---|---|---|---|
Presennol | Person 1af | caraf | carwn |
2il berson | ceri | cerwch | |
3ydd person | câr | carant | |
Amhersonol | cerir | ||
Amherffaith | Person 1af | carwn | carem |
2il berson | carit | carech | |
3ydd person | carai | carent | |
Amhersonol | cerid | ||
Gorffennol | Person 1af | cerais | carasom |
2il berson | ceraist | carasoch | |
3ydd person | carodd | carasant | |
Amhersonol | carwyd | ||
Gorberffaith | Person 1af | caraswn | carasem |
2il berson | carasit | carasech | |
3ydd person | carasai | carasent | |
Amhersonol | caresid |
Unigol | Lluosog | ||
---|---|---|---|
Presennol | Person 1af | carwyf | carom |
2il berson | cerych | caroch | |
3ydd person | caro | caront | |
Amhersonol | carer | ||
Amherffaith | Person 1af | carwn | carem |
2il berson | carit | carech | |
3ydd person | carai | carent | |
Amhersonol | cerid |
Unigol | Lluosog | ||
---|---|---|---|
Presennol | Person 1af | carwn | |
2il berson | câr | cerwch | |
3ydd person | cared | carant | |
Amhersonol | carer |
Fel rheol, nid yw berfenwau fel bwyta yn cael eu cyfri fel berfau yn y Gymraeg, ond mae eu swyddogaeth yn debyg i ferfau annherfynol a geir mewn llawer o ieithoedd.
Mae berf seml/gryno/rhediadol fel un o'r ffurfiu o canu uchod, yn dangos person, amser ac ati yn ffurf y prif ferf. Ond gellir defnyddio berf arall fel bod i wneud y gwaith yma, gan adael y prif ferf fel berfenw yn unig. Gelwir hyn yn ferf gwmpasog, gan ei fod yn effeithio ar rannau arall o'r frawddeg. E.e. yn lle o "Caraf ferch" (berf cryno), gallwn ddweud "Rydw i'n caru merch" (berf gwmpasog).
Un ffordd o wahaniaethu rhwng ferfau yw falens; cyfanswm goddrychau a gwrthrychau'r ferf.
Mae'r math yma o ferf yn disgrifio rhywbeth sy'n digwydd (heb nodi pwy sy'n ei wneud nag i bwy). Enghraifft yw berf amhersonol fel "canwyd cân" yn y Gymraeg.
Gelwir berf sydd â goddrych, ond heb wrthrych yn ferf gyflawn. Er enghraifft, "cysgodd Dafydd".
Mae gan ferf anghyflawn wrthrych yn ogystal â goddrych, er enghraifft, "Bwytodd ef fwyd".
Goddrych a dau wrthrych sydd gan ferf o'r fath fel arfer, e.e. "Rhoddod Siôn yr anrheg i Siân".