Diod alcoholaidd yw cwrw. Fe'i gwneir o rawnfwyd wedi'i eplesu. Cynhyrchir cwrw drwy ei fragu (e.e. mewn bragdy).
Mae pobl wedi bod yn bragu cwrw am o leiaf 9 mil o flynyddoedd. Yn Ewrop roedd cwrw'n boblogaidd am iddo fod yn fwy diogel i'w yfed na dŵr oherwydd fod dŵr yr afonydd yn llawn o feicrobau. Roedd mynachod yn aml yn gynhyrchwyr mawr o gwrw.
Mae yfed cwrw yn rhan o fywyd modern Prydain, a chaiff ei werthu mewn tafarnau sydd yn aml yn rhan ganolog o fywyd cymdeithasol.
Mae sawl bragdy yng Nghymru, gan gynnwys Brains yng Nghaerdydd.
Ceir nifer o hen benillion am gwrw gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddirmygus ohono: