Enghraifft o'r canlynol | diwrnod rhyngwladol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 15 Tachwedd 1995 |
Dechreuwyd | 1996 |
Prif bwnc | llyfr |
Sylfaenydd | UNESCO |
Gwefan | https://en.unesco.org/commemorations/worldbookday |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dethlir Diwrnod y Llyfr yn flynyddol, ar y 23 Ebrill yn y rhan fwyaf o wledydd y byd gan UNESCO i hybu darllen, cyhoeddi a hawlfraint. Dathlwyd yr ŵyl am y tro cyntaf yn 1995. Yn Prydain ac Iwerddon mae Diwrnod y Llyfr yn digwydd ar Fawrth y 5ed.[1]
Gwnaethpwyd y cysylltiad rhwng 23 Ebrill a llyfrau am y tro cyntaf yn 1923 gan werthwyr llyfrau yn Catalonia, Sbaen fel ffordd o anrhydeddu'r awdur Miguel de Cervantes a fu farw ar y diwrnod hwnnw. Daeth hyn yn rhan o ddathliad Diwrnod Sant Siôr (a oedd hefyd ar 23 Ebrill) yn yr ardal, lle mae'n draddodiad i ddynion ers yr Oesoedd Canol i ddynion rhoi rhosod i'w cariadon, ac ers 1925, i ferched roi llyfr mewn cyfnewid. Ceiff hanner y gwerthiant llyfrau yn Catalonia ei wneud ar y diwrnod yma gyda dros 400,000 yn cael eu gwerthu a'u cyfnewid am dros 4 miliwn o rosod.
Yn 1995, penderfynodd UNESCO y dylai Diwrnod y Llyfr gael ei ddathlu ar yr un diwrnod oherwydd yr ŵyl Gatalonaidd, ac oherwydd mai hwn yw pen-blwydd genedigaeth a marwolaeth William Shakespeare, marwolaeth Inca Garcilaso de la Vega a Josep Pla, genedigaeth Maurice Druon, Vladimir Nabokov, Manuel Mejía Vallejo a Halldór Laxness.
Er y dywedir yn aml mai 23 Ebrill ydy pen-blwydd marwolaethau Shakespeare a Cervantes, nid yw hyn yn hollol wir. Bu farw Cervantes ar 23 Ebrill yn ôl Calendr Gregori; ond ar yr adeg hyn ym Mhrydain roeddent yn dal i ddefnyddio Calendr Iŵl. Tra bu farw Shakespeare ar 23 Ebrill yn ôl Calendr Iŵl a ddefnyddwyd yn ei wlad ei hun ar y pryd, mewn gwirionedd, bu farw 10 diwrnod ar ôl Cervantes, oherwydd y gwahaniaethau rhwng y ddau system dyddio. Cyd-ddigwyddiad ffodus i UNESCO.
Dathlwyd Diwrnod y Llyfr yn Deyrnas Unedig ac Iwerddon ers 1997, ac ers 2002, dethlir y gŵyl ar y ddydd Iau cyntaf ym mis Mawrth.
Rhoddir tocyn llyfr yn rhad ac am ddim i pob plentyn ysgol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae'r tocynnau'n werth £1.00 yn y Deyrnas Unedig ac €1.50 yn Iwerddon. Gellir eu defnyddio i brynu un o'r llyfrau sy'n cael eu rhyddhau'n arbennig ar gyfer yr ŵyl ac sy'n costio'r un faint a gwerth y tocyn, neu gellir eu defnyddio tuag at gôst unrhyw lyfr, neu lyfr ar dâp, arall. Mae nifer o ysgolion yn dal "darllen-athon" neu sêl llyfrau ar yr un diwrnod.
I ddathlu'r diwrnod, darllenir Don Quixote gan Cervantes mewn "darllen-athon" deu-ddydd o hyd a gwobrwyir Gwobr Miguel de Cervantes gan Frenin Sbaen yn Alcalá de Henares.
Dyma'r restr o'r nofelau a ryddhawyd ar gyfer hybu amryw o Ddiwrnodau'r Llyfr.