|
Segment neu ran o'r DNA sy'n encodio RNA (neu brotin yw genyn (ll. genynnau), sy'n uned foleciwlar ac yn rhan o etifeddeg.[1][2] Trosglwyddo genynnau i'r epil yw'r prif ddull o drosglwyddo nodweddion ffenotypig. Caiff mathau gwahanol o genynnau (a chydadwaith genyn-amgylchedd) ddylanwad mawr ar nodweddion biolegol organebau. Mae rhai o'r nodweddion hyn yn weledol: lliw llygad, sawl troed, braich neu fus, ac eraill nad ydynt yn weladwy e.e. teip gwaed, y risg o ddal clefyd arbennig, neu'r miloedd o brosesau hynny sy'n ffurfio yr hyn a elwir yn 'fywyd'.
Gall genynnau fwtanu (mutate) o fewn eu cyfres, gan arwain at amrywiolion o fewn eu poblogaeth, a elwir yn alelau. Mae'r alelau hyn yn codio mathau gwahanol o brotin, sy'n arwain at nodweddion o ffenodeipiau gwahanol.
Mae'r cysyniad o genyn yn parhau i gael ei newid a'i ail-ddiffinio wrth i wyddoniaeth ddarganfod ffenomenâu gwahanol, a gwybodaeth newydd yn dod i'r fei.[3]
Darganfyddodd Gregor Mendel (1822–1884) unedau sy'n gyfrifol am etifeddu nodweddion y rhieni.[4] Rhwng 1857 a 1864 astudiodd y patrymau gweledol mewn pys bwytadwy gan gofnodi'r nodweddion a oedd yn newid o un genhedlaeth i'r llall. Disgrifiodd y rhain yn fathemategol fel amrywiadau 2n (ble mae 'n' yn golygu'r nifer o nodweddion gwahanol. Ni ddefnyddiodd y term 'genyn' (na gene!), disgrifiodd ei ganlyniadau mewn modd a wahaniaethodd rhwng genoteip a ffenoteip (nodweddion gweledol sydd yn gwahaniaethu organebau byw). Ef hefyd a ddisgrifiodd y "dosbarthiad naturiol", sef y gwahaniaeth rhwng genyn trechol a ffactorau enciliol. Ef hefydd a nododd am y tro cyntaf y gwahaniaeth rhwng heterosygot a homosygot.
Darganfuwyd strwythut y moleciwl DAN yn 1953 gan James D. Watson a Francis Crick.[5][6] Esblygodd eu syniadaeth yn ddogma a ddaeth yn asgwrn cefn bioleg moleciwlaidd, sy'n datgan fod protinau yn cael eu trawsblannu o'r RNA sydd yn ei dro'n cael ei drawsblannu o'r DNA. Gelwir yr astudiaeth o eneteg ar lefel y DNA yn eneteg foleciwlaidd.
Daw'r gair 'genyn' o'r Hen Roeg γένος (génos) sy'n golygu 'hil' neu 'epil'. Mae'r gair modern yn tarddu i 1909 pan ddefnyddiwyd ef yn gyntaf gan y botanegydd Wilhelm Johannsen i ddisgriffio'r gwahaniaeth corfforol (a ffwythiannol) sylfaenol yr uned etifeddol.[7] Defnyddiwyd y term "geneteg" (genetics) am y tro cyntaf gan William Bateson yn 1905.[8]