Hyoscyamus niger | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Solanales |
Teulu: | Solanaceae |
Genws: | Hyoscyamus |
Rhywogaeth: | H. niger |
Enw deuenwol | |
Hyoscyamus niger Carl Linnaeus |
Planhigyn blodeuol gwenwynol yw Hyoscyamus niger, hefyd a elwir yn Llewyg yr iâr (Saesneg: Black henbane).[1][2] Mae'n perthyn i'r teulu Solanaceae.[3][4] Mae Hyoscyamus niger yn gynhenid i Ewrop a Siberia, ac mae wedi hen ymgartrefu ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon.[5]
Daw'r enw Cymraeg o'r ffaith bod Hyoscyamus niger yn tyfu'n wyllt, ac yn aml mewn gerddi ac ar ffermydd. Sylwai ffermwyr bod yr ieir yn mynd yn "wallgof" ar ôl bwyta'r planhigyn oherwydd effaith yr alcaloidau tropên. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn, gan gynnwys Crys y Brenin,[2] bela,[2] bele,[2] belau,[2] ffa'r moch,[2] gwenwyn yr ieir,[2] henban,[2] a parfyg.[2]