Mae rhywedd yn cyfeirio at y gwahaniaethau rhwng dynion a menywod. Ym meysydd astudiaethau diwylliannol, astudiaethau rhywedd a gwyddorau cymdeithas mae rhywedd yn cyfeirio at wahaniaethau cymdeithasol yn hytrach na biolegol, sef rhyw. Am y rheswm hwn mae rhai yn gweld rhywedd fel lluniad cymdeithasol yn hytrach na ffenomen fiolegol. Hunaniaeth ryweddol yw'r modd y mae unigolyn yn teimlo naill ai'n wrywol neu'n fenywol, mewn ystyr ar wahân i'w ryw biolegol. Gall pobl a chanddynt hunaniaeth ryweddol sy'n teimlo'n anghymarus â'u rhyw corfforol uniaethu fel rhyngrywiol, rhyngryweddol neu un o nifer o hunaniaethau ar y continwwm trawsryweddol.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Mae rhywedd yn ymddangos mewn nifer o gysyniadau crefyddol ac ysbrydol ar draws y byd. Yn Nhaoiaeth, mae in ac iang yn cael eu hystyried yn fenywol a gwrywol yn y drefn honno. Yng Nghristnogaeth, disgrifir Duw yn wrywol, ond yr Eglwys yn fenywol.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.