Ebrill - Ysgrifennodd y Cambrian News and Merionethshire Standard ar 1 Mai 1896 fel hyn: Very large catches of fish have been made in the Estuary Mawddach this year [hyd at ddiwedd Ebrill] by natives and visitors, comprising, principally, mullet and cod. On many days over a hundredweight has been taken.
7 Mai - Meddai Ellis Pierce yn ei golofn "Ebion o Nant Conwy" yn y Cymro ar 7 Mai 1896, wrth gwyno am y tywydd yn ardal Dolwyddelan: "Oer ac oer neillduol ydyw yr hin wedi bod ac yn parhau i fod yn Nant Conwy yma. Bu y gôg yn hir heb ganu yn nhreftadaeth ei hynafiaid. Mae'n barugo, ie, yn rhewi, yn ystod y nos, a phenau uchaf y mynyddoedd yn cael eu gorchuddio yn fynych â chaenen deneu o eira."
4 Mehefin - Adroddodd yr Evening Express 4 Mehefin 1896 (Pink Edition) bod y syched hir wedi dod i ben gyda chawod drom o law yn ystod y bore.
12 Mehefin - Adroddodd y South Wales Daily Post ar y 13 Mehefin 1896 am stwrsiwn 8tr. 4mod. o hyd, 3tr. 4mod. o'i gwmpas, ac yn pwyso 3cwt. yn cael ei ddal mewn dwr bas ar y Tywi ger Alltwaddon.
15 Mehefin - Daeargryn a tsunami yn Sanriku, Japan; 27,000 o bobol yn colli ei bywydau.
25 Gorffennaf - Adroddodd newyddiadur Y Dydd (31 Gorffennaf 1896) am "lifogydd difrifol mewn amryw leoedd dydd Sadwrn [25 Gorffennaf], ac nid yn fwy felly na Dolgellau. Chwyddodd yr Afon Aran yn fwy nac y gwelodd neb hi o`r blaen erioed, a hyny ar ychydig rybudd. Ni wnaeth ragor o niwaid nac ymweled ag amryw dai, a daeth trwy Sarnau y pobty yn llif mawr, fel yr ydoedd Meyrick street fel afon, a`r ffordd i Felin Uchaf yr un modd; ac onibai am fod rhai pontydd yn gryfion, nid oes dadl na buasai collection mawr wedi cymeryd lle. Glanhawyd llawer ar yr afonydd oddiwrth arogl anhyfryd."
Awst - Nifer o adroddiadau papurau newyddion am gnwd helaeth o fadarch ar draws y gogledd yn dilyn torri'r sychder hir
1 Medi - Yn Llanelwy, Dinbych, a Threffynnon yn ôl Y Dydd 4 Medi 1896: "LLIFOGYDD. Mewn rhai parthau o Gymru y mae wedi gwneud llifogydd mawrion dydd Llun [31 Awst] a dydd Mawrth [1 Medi], yn enwedig yn Llanelwy, Dinbych, a Treffynon, ac nid oedd modd myned ar hyd yr heolydd yn y lleoedd hyn gan fod y llifogydd mor fawrion."