Alecsander Fawr yn croesi Afon Indus i Taxila, lle mae'r brenin Taxiles yn rhoi milwyr ac eliffantod iddo yn gyfnewid am gymorth yn erbyn Porus, brenin y tiroedd rhwng Afon Hydaspes (Afon Jhelum heddiw) ac Afon Acesines (Afon Chenab heddiw).
Yn ei frwydr fawr olaf, mae Alecsander yn gorchfygu Porus ym Mrwydr Afon Hydaspes. Daw Porus yn gyngheiriad iddo. Mae Alecsander yn sefydlu dwy ddinas, Alexandria ar yr Indus neu Alexandria Nicaea ac Alexandria Bucephalous , er cof am ei geffyl, Bucephalus, a fu farw yno.
Aiff Alecsander ymlaen tua'r dwyrain, i wynebu ymerodraeth Magadha. Mae ei fyddin yn gwrthryfela ger Afon Hyphasis (Afon Beas heddiw), ac yn gwrthod mynd ymhellach.