Y llengoedd ym Mhrydain yn gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr Honorius ac yn dewis Marcus fel ymerawdwr. Llofruddir ef yn fuan wedyn, ac mae Gratianus yn cymryd ei le.
Mae'r cadfridog Rhufeinig Stilicho, gyda chymorth yr Hyniaid dan Uldin, yn gorchfygu byddin o 200,000 o farbariaid dan Radagaisus yn Fiesole.