15 Awst - Brwydr Ronsyfal (Roncesvalles), lle gorchfygir rhan o fyddin Siarlymaen gan y Basgiaid. Ymhlith y lladdedigion mae Rolant, arglwydd Mers Llydaw. Mae'r gerdd Cân Rolant (La Chanson de Roland) o'r 11g wedi ei seilio ar ddigwyddiadau'r frwydr yma.