Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | useful plant |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Persea |
Dechreuwyd | Mileniwm 16. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Planhigyn yw'r afocado (Persea americana), a chredir iddo darddu o Dde Canolbarth Mecsico.[1][2] Mae'n aelod o deulu'r planhigion blodeuol Lauraceae.[3] Mae ffrwyth y planhigyn, hefyd yn cael ei alw'n afocado (neu gellygen afocado neu gellygen aligator), yn fotanegol yn fwyaren fawr sy'n cynnwys hedyn a elwir yn "garreg".[4]
Mae afocados yn werthfawr yn fasnachol ac yn cael eu tyfu ledled y byd mewn hinsawdd trofannol a Chanoldirol. Mae gan y ffrwyth groen gwyrdd a siap gellygen, wy neu sffer. Maen nhw'n aeddfedu ar ol eu cynaeafu. Mae coed afocado yn peillio eu hunain yn rhannol.
Daw'r gair "afocado" o'r Sbaeneg aguacate, sydd yn ei dro yn dod o'r gair Nahwatleg āhuacatl [aːˈwakat͡ɬ],[5] sy'n mynd yn ôl i'r proto-Astecaidd *pa:wa a oedd hefyd yn golygu "afocado".[6] Weithiau roedd y gair Nahwatleg yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at "gaill", oherwydd y tebygrwydd rhwng y ffrwyth a'r rhan honno o'r corff, siwr o fod.[7]