Alan Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 1948 ![]() Dolgellau ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, sgriptiwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd ![]() |
Adnabyddus am | Y Flodeugerdd Englynion Newydd, Anghenion y gynghanedd ![]() |
Bardd, awdur a sgriptiwr ffilmiau yw Alan Llwyd (ganwyd Alan Lloyd Roberts, 1948).
Fe'i ganwyd yn Dolgellau, Gwynedd[1] lle bu'n byw nes oedd yn bump oed; symudodd i fferm yn Nghilan, Pen Llŷn.[2] Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ac wedi graddio yno yn y Gymraeg, bu'n rheoli siop lyfrau yn y Bala cyn symud i ardal Abertawe er mwyn gweithio i gwmni cyhoeddi Christopher Davies. Ar ôl cyfnod yn gweithio i CBAC treuliodd weddill ei yrfa fel golygydd amser-llawn gyda Barddas, cylchgrawn y bu'n gyfrifol am ei sefydlu gyda Gerallt Lloyd Owen.
Enillodd y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, dim ond yr ail fardd i wneud hynny yn hanes yr Eisteddfod.
Enillodd y Gadair am y trydydd tro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 ac ef oedd y bardd cyntaf i wneud hynny ers llacio'r rheol 'ennill dwywaith yn unig'.[3]
Mae'n awdur toreithiog, gyda sawl cyfrol o farddoniaeth a beirniadaeth wedi eu cyhoeddi yn cynnwys cofiannau Hedd Wyn a Goronwy Owen. Ysgrifennodd y sgript am y ffilm Hedd Wyn (1992). Yn ddiweddar fe olygodd Cymru Ddu, hanes pobl du Cymreig.