Yr astudiaeth wyddonol o forffoleg y corff (ffurf, siap a golwg organau a ffurfiannau eraill) y corff dynol ydy anatomeg ddynol (hefyd anatomi dynol). Mae dwy ran iddi:
anatomeg topograffig: yr astudiaeth o strwythurau y gellir eu gweld gyda'r llygad noeth;
anatomeg microscopig: yr astudiaeth o strwythurau'r corff gyda chymorth microsgop ac offer tebyg.
Mae anatomeg dynol hefyd yn un o'r dair astudiaeth sy'n ffurfio meddygaeth; y ddwy ran arall ydy: anatomeg ffisiolegol (sut mae'r corff yn gweithio) ac yn symud a biocemeg, sef yr astudiaeth gemegol o'r corff.
Mae gan y corff dynol systemau biolegol (gweler isod) sy'n cynnwys organau wedi'u gwneud o feinwe, sydd yn ei dro yn cynnwys celloedd a meinwe cysylltiol.
Mae'r asudiaeth o'r corff dynol wedi carlamu ymlaen oherwydd technoleg yn ystod y ganrif ddiwethaf, gan ymestyn hyd bywyd dyn.
Mae'r gweithwyr canlynol i gyd wedi astudio, ac yn parhau i astudio anatomeg ddynol: deintyddion, geinecolegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys, parafeddygon, radiograffyddion a meddygon drwy gymorth diagramau, llyfrau, gwefannau, ysgerbydau, modelau, cyrff marw, lluniau, darlithoedd ayb. Gellir astudio anatomi'r corff mewn (o leiaf) dwy ffordd:
o ran lleoliad;
o ran pwrpas.
Oherwydd dylanwad Gray's Anatomy, fel arfer rydym yn dosbarthu yn ôl lleoliad.
Y system iwrein: gan gynnwys yr afu, yr iwreter, y bledren a'r iwrethra a ddefnyddir i symud hylif, ac i gadw balans yr hylif yn y corff, ac i'w ysgarthu allan o'r corff.
Y system lymffatig: strwythurau sy'n delio â throsglwyddo'r lymph rhwng meinweoedd a thrwy'r gwaed a'r lymph eu hunain, nodau lymff a thiwbiau lymff sy'n ei gludo. Mae hyn hefyd yn cynnwys y system imiwnedd ac amddiffyn rhag clefydau drwy gyfrwng y lwcosets (Sa: "leukocytes"), y tonsiliau, yr adenoids, y thymws a'r boten (Sa: "spleen").