Angharad Mair | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Angharad Mair Davies ![]() 30 Mawrth 1961 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | rhedwr marathon, newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, gweithredwr mewn busnes ![]() |
Cyflogwr | |
Chwaraeon |
Cyflwynydd teledu Cymreig, colofnydd, cyn-athletwraig ac un o gyfarwyddwyr Tinopolis ydy Angharad Mair (ganed 30 Mawrth 1961)[1].
Ganwyd Angharad yng Nghaerfyrddin. Astudiodd yng Ngholeg Normal, Bangor.[2]
Wedi gadael y coleg, daeth yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu i blant Bilidowcar pan ail-lansiwyd y rhaglen ar S4C ar 2 Tachwedd 1992. Gadawodd yn 1987 pan ymunodd â thîm newyddion y BBC[3]. Yn 1990 dechreuodd weithio i gwmni teledu Agenda, yn cyflwyno'r rhaglen deledu cylchgrawn Heno ar S4C. Bu hefyd yn cyflwyno ar Prynhawn Da, Wedi 3 a Wedi 7. Hi yw golygydd cyfres Heno.
Roedd yn 30 mlwydd oed cyn iddi ddechrau rhedeg ac yn 1997, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd yn Athens. Rhoddodd y gorau i redeg ers ei phedwardegau.[1] Mae'n briod â Jonathan Cray, sy'n gweithio fel dyn camera i Tinopolis ac mae dwy ferch ganddynt. Bu'r teulu yn byw am rai blynyddoedd yn Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg.[4] Yn 2020 symudodd i'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.[5]
Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.[6]