Crewyd swydd Archesgob Cymru yn 1920, pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru i greu Yr Eglwys yng Nghymru. Yn wahanol i archesgobion yn nhaleithiau eraill yr Eglwys Anglicanaidd, mae'r Archesgob hefyd yn esgob un o'r esgobaethau yng Nghymru.
Yr Archesgob presennol yw'r Parchedicaf Andy John, a etholwyd ym mis Rhagfyr 2021.[1]
Archesgobion Cymru | |||
---|---|---|---|
Cychwyn | Gorffen | Deiliad | Nodiadau |
1920 | 1934 | Alfred George Edwards | Hefyd yn Esgob Llanelwy o 1889. |
1934 | 1944 | Charles Green | Bu'n Esgob Mynwy; hefyd yn Esgob Bangor o 1928; bu farw yn y swydd. |
1944 | 1949 | David Prosser | Hefyd yn Esgob Tyddewi o 1926. |
1949 | 1957 | John Morgan | Bu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu; hefyd yn Esgob Llandaf o 1939; bu farw yn y swydd. |
1957 | 1967 | Edwin Morris | Hefyd yn Esgob Mynwy o 1945. |
1968 | 1971 | Glyn Simon | Bu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu; hefyd yn Esgob Llandaf o 1957. |
1971 | 1982 | Gwilym Williams | Hefyd yn Esgob Bangor o 1957. |
1983 | 1986 | Derrick Childs | Hefyd yn Esgob Mynwy o 1972. |
1986 | 1991 | George Noakes | Hefyd yn Esgob Tyddewi o 1981. |
1991 | 1999 | Alwyn Rice Jones | Hefyd yn Esgob Llanelwy o 1981. |
1999 | 2002 | Rowan Williams | Hefyd yn Esgob Mynwy o 1992; yn Archesgob Caergaint o 2002 i 2013 |
2003 | 2017 | Barry Morgan | Bu'n Esgob Bangor; hefyd yn Esgob Llandaf o 1999.[2] |
2017 | 2021 | John Davies | Hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ers 2008.[3]
|
2021 | presennol | Andy John | Hefyd yn Esgob Bangor ers 2008.[4]
|
Ffynonellau:[5][6] |
|iaith=
ignored (help)