Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Crëwr | Zuhur Habibullaev, Q96383905 |
Lliw/iau | coch, gwyn, gwyrdd, aur |
Dechrau/Sefydlu | 24 Tachwedd 1992 |
Genre | horizontal triband |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mabwysiadwyd baner Tajicistan (Tajiceg: Парчами Тоҷикистон / Parcami Toçikiston, Farsi: پرچم تاجیکستان) ar 24 Tachwedd 1992 - blwyddyn wedi'r i Tajicistan ddatgan annibyniath oddi ar yr hen Undeb Sofietaidd.[1] Mae'r faner yn un trilliw llorweddol - coch, gwyn a gwyrdd. Yn y band gwyn ceir coron a saith seren aur. Mae'r sêr aur mewn bwa uwchben y coron.
Mae'r lôn wen ganol yn 50% yn lletach na'r bandiau coch a gwyrdd. Mae'r cymesuredd yma yn anarferol mewn baneri trilliw llorweddol. O ganlyniad i hyn, ac yn wahanol i faner Cwrdistan sydd yn yr un lliwiau a'r un drefn, mae delwedd ganol baner Tajicistan yn gyfangwbl y tu fewn terfynnau'r band gwyn.
Mae'r coch yn cynrychioli undod y bobl, mae'r gwyrdd yn cynrychioli'r dyffrynnoedd ffrwythlon a'r gwyn yn cynrychioli eira a rhew y mynyddoedd a lliw cotwm.[2][3]
Gosodir y goron a'r sêr mewn petryal sy'n cwmpasu 80% o uchder y lôn wen. Mae'r goron yn cynrychioli'r bobl Tajic gan fod yr enw Tajic yn gysylltiedig â'r moeseg werin gyda'r Persian Tâj (sy'n golygu coron).[4].
Yn ystod yr Undeb Sofietaidd, defnyddiodd yr Gweriniaeth Sofietaidd, SSR Tajicistan, faner bandiau llorweddol gwyn a gwyrdd (y lliwiau cenedlaethol) yn hanner isaf y faner goch ar gynllun nodweddiadol o faneri'r Undeb Sofietaidd. Tajikistan oedd yr olaf o'r 15 gweriniaeth Sofietaidd ar 20 Mawrth 1953 i fabwysiadu'r math newydd hwn o faneri yn y Weriniaeth Sofietaidd.[9] Yn flaenorol, dim ond enwau'r weriniaeth o dan y morthwyl a'r cryman oedd i'w gweld yn baneri'r gweriniaethau Sofietaidd.
Yn y broses o ennill annibyniaeth, mabwysiadwyd baner genedlaethol newydd, yn dilyn trefn holl wladwriaethau olynol eraill yr Undeb Sofietaidd. Nes cytuno ar faner genedlaethol newydd, rhwng 1991 a 1992, penderfynodd yr awdurdodau Tajic arddel baner yr hen weriniaeth Sofietaidd ond gan dynnu o'r neilltu y symbolau gomiwnyddol traddodiadol oedd arni - y morthwyl a'r cryman a seren gomiwnyddol.
Lansiwyd Ystondord Arlywydd Tajicistan yn 2006 ar achlysur seremoni urddo trydydd tymor Emomali Rahmon fel pennaeth y wladwriaeth. Gan ddefnyddio'r un tri lliw â'r faner genedlaethol, ond mae ganddo farn am y Derafsh Kāviāni, safon brenhinol Sassanid, gyda llew glasog ar gefndir glas yno o dan gynrychiolaeth lai o'r goron a'r bwa seren.[10]
Coch, gwyn a gwyrdd yw'r lliwiau Pan-Iraniad, sef cenhedloedd sy'n siarad iaith sy'n perthyn i'r teulu Indo-Arieg - fel Farsi, Cwrdeg, Tajic a Pashtun (yn Afghanistan/Pacistan). Mae'r iaith Tajiceg, fel yr ieithoedd eraill yn perthyn i Ffarsi a bu Ffarsi yn iaith statws uchel yng Nghanolbarth Asia am ganrifoedd. Mae'r lliwiau coch, gwyn a gwyrdd yn cynrychioli gwahanol dosbarthiadau o fewn cymdeithas.[11] Ar yr olwg gyntaf, ac i'r lygad anwybodus, gall baner Tajicistan edrych yn debyg iawn i faner Hwngari sydd hefyd yn faner trilliw gyda'r band goch ar y top.
|accessdate=
(help)
|accessdate=
(help)