Chris Needs | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mawrth 1954 ![]() Cwmafan ![]() |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2020 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio, pianydd, canwr ![]() |
Gwobr/au | MBE ![]() |
Gwefan | https://www.chrisneeds.co.uk/ ![]() |
Cyflwynydd radio a cherddor Cymreig oedd Christopher Needs MBE (12 Mawrth 1954 – 26 Gorffennaf 2020).[1][2] Roedd hefyd yn actor a phianydd.[3]
Ganwyd Chris yng Nghwmafan ger Port Talbot yn fab i Margaret Rose (1934-2000) a Harold (-1996), gweithwr dur. Roedd ganddo ddau frawd iau. Cymraeg oedd iaith yr aelwyd ond byddai hynny yn newid pan ddaeth ei dad adref gan nad oedd ei dad yn siarad unrhyw Gymraeg. Fe'i addysgwyd yn ysgol gynradd Cwmafan ac Ysgol Dyffryn, Port Talbot.
Aeth ymlaen i wneud MA a doethuriaeth mewn Cerddoriaeth gyda'r Associated Board, Llundain.
Roedd Chris yn actor a pianydd clasurol a gweithiodd mewn nifer o wledydd yn Ewrop, gan ddysgu Sbaeneg ac Iseldireg.
Cychwynodd ei yrfa radio ar orsaf radio annibynnol, Touch AM. Ymunodd a BBC Radio Wales yn 1996 ac yn 2002 cychwynodd gyflwyno ei sioe nosweithiol The Friendly Garden Programme lle'r oedd ar yr awyr rhwng 23:00 a 01:00. Roedd Needs yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr BBC Radio Wales, drwy sgwrsio gyda nhw ar yr awyr a'i gwahodd i ymuno gyda'i glwb cymunedol 'The Garden'.[4] Bu'n cyflwyno'r rhaglen am 18 mlynedd hyd at y dydd Gwener cyn ei farwolaeth.
Roedd Chris yn ymwybodol o fod yn hoyw ers ei arddegau ac yn ei hunangofiant soniodd am y gwawdio a'r erlid derbyniodd yng Nghymru oherwydd ei rywioldeb. Yn ystod ei arddegau cafodd ei gamdrin yn rhywiol gan rywun er roedd yn gwrthod ei henwi. O ganlyniad i hyn ceisiodd ladd ei hun.[5] Priododd ei ŵr, Gabe Cameron, ar 13 Mawrth 2013 yn Neuadd y ddinas, Caerdydd.
Bu farw yn 2020 wedi dioddef o waeledd ers peth amser gyda'i galon. Dwedodd datganiad y BBC: "Cwbl unigryw. Cwsg mewn hedd, Chris". Cynhaliwyd ei angladd ar 14 Awst 2020 a daeth torf allan ar ochr y stryd yng Nghwmafan i dalu teyrnged wrth i'r hers gludo ei gorff i Amlosgfa Margam. Oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, roedd yr angladd yn un preifat.[6]