Llinyn DNA a geir yng nghnewyllyn y gell yw cromosom. Mae'n cynnwys bron y cyfan o gôd genetig organeb byw. Nid yw fel arefr i'w ganfod ar ei ben ei hun; yn hytrach fe'i ceir wedi lapio ei hun o gwmpas y 'niwcleosôm', sef casglaid o brotinau, ac sy'n cynnwys histonau. Yn ystod mitosis (rhaniad cell) mae'n bosib gweld cromosomau gyda chymorth meicroscop.
Yn y cromosom dynol ceir 23 pâr o gromosomau, cyfanswm 46 cromosom. Mewn gametau (sbermau a ŵyau) dynol mae 23 cromosomau.
O'r Hen Roeg y daw'r gair cromosom, cyfansoddair o'r enwau chroma χρῶμα ‘lliw’ a soma (σῶμα) ‘corff’.
Mae'n ddigon hawdd staenio chromatin a chromosomau.[1] Drwy wneud hyn, daeth Virchow a Bütschli i fod ymhlith y gwyddonwyr cyntaf i adnabod y strwythur iconic a adnabyddwn heddiw fel y cromosom.[2] Ond Heinrich Wilhelm Gottfried von Waldeyer-Hartz,[3] a fathodd y gair, gan gyfeirio at "cromatin" wrth wneud hynny, gair a oedd wedi'i fathu gan Walther Flemming ychydig cyn hynny.
Mewn cyfres o arbrofion a gychwynwyd yng nghanol y 1880au, dangosodd Theodor Boveri mai'r cromoson yw fector etifeddeg. Dangosodd ddau egwyddor: dilyniant cromosomau a'u hunigolrwydd; roedd yr ail o'r rhain yn gysyniad cwbwl newydd. Awgrymodd Wilhelm Roux fod y cromosom yn cario llwyth genetig, gwahanol ac ymchwiliodd i mewn i'r cysyniad hwn, a'i brofi. Ychwanegodd at ei ddarganfyddiad y wybodaeth a oedd newydd gael ei ailddarganfod, sef gwaith Gregor Mendel, a chyhoeddodd fod cysylltiad agos rhwng rheolau etifeddeg ac ymddygiad y cromosom.
|publisher=
(help)