Mewn gramadeg, mae cyflwr enw neu ragenw yn dynodi ei swyddogaeth ramadegol mewn brawddeg. Mae'r swyddogaethau hyn yn cynnwys y goddrych, y gwrthrych, y derbynnydd neu berchennog. Er bod y rhan fwyaf o ieithoedd yn dynodi cyflwr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, fe arferir dweud bod cyflyrau gan iaith ond pan y'u dangosir gan forffoleg yr enw - hynny yw, pan mae enwau yn newid eu ffurf i adlewyrchu cyflwr (er enghraifft gogwyddiad).
Mewn ieithoedd sy'n dangos cyflyrau yn forffolegol, nid yw'r rheolau cystrawen yn gyfyng ac felly gellir newid o gwmpas trefn y frawddeg (ar gyfer pwylais fel arfer) heb newid yr ystyr. Enghraifft o hyn yw'r ddwy frawddeg Almaeneg ganlynol:
Gan fod y cyflwr heb newid mae'r ystyr yn aros yr un peth er bod y drefn wedi newid.
Mae'r Gymraeg yn dibynnu'n llwyr ar gystrawen ac arddodiaid i gyfleu ystyr. Trefn gyffredin brawddeg Gymraeg yw: BERF + GODDRYCH + GWRTHRYCH + DERBYNNYDD.
Er mwyn dynodi'r derbynnydd defnyddir yr arddodiaid i neu am fel arfer:
Er mwyn dynodi'r perchennog, dibynnir yn llwyr ar gystrawen gyda'r perchennog yn dod ar ôl ei eiddo:
I ryw raddau mae yna ffurfiau o'r rhagenwau personol yn y gwrthrychol (ef a ei, nhw a eu, ni a ein, ayyb):
Mae rheolau trefn y frawddeg Gymraeg felly yn dynn iawn.
Mae Lladin yn dangos y saith cyflwr enwol, gwrthrychol, derbyniol, genidol, abladol, cyfryngol a chyfarchol drwy batrymau gogwyddiad cymhleth. Mae yna hefyd ffurfiau lleol o enwau rhai llefydd yn Rhufain hynafol.
Rhoddir enghraifft o ogwyddiadau Lladin gyda ffurfiau unigol y gair homo (dyn), sydd yn perthyn i drydydd gogwyddiad yr iaith Ladin.
Fel unrhyw iaith gyda chymaint o ogwyddiadau â Lladin gellir trefnu brawddeg mewn unrhyw ffordd ar gyfer effaith neu bwyslais:
Mae gan Ladin nifer o ddosbarthiadau patrymau gogwyddiad, hynny yw, grwpiau o enwau sydd yn rhannu patrymau gogwyddo tebyg. Fe ystyrir Lladin i fod â phum dosbarth gogwyddo.
Nid yw cyflyrau yn amlwg iawn yn Saesneg ac felly ar y cyfan mae'n iaith sy'n dibynnu'n fawr ar gystrawen ac arddodiaid i gyfleu ystyr. Serch hyn mae yna rai enghreifftiau o ogwyddiad yn ôl cyflwr yn y rhagenwau personol lle y gwahaniaethir rhwng goddrych a gwrthrych (he a him, they a them, I a me, ayyb).
Mae'r rhan fwyaf o frawddegau Saesneg yn dilyn y patrwm: Goddrych + Berf + Gwrthrych + Derbynydd. Fel arfer mae'r derbynnydd wedi'i farcio gyda'r arddodiaid to neu for.
Mae'n bosib i beidio marcio'r derbynnydd gyda to neu for yntau'r unig ffordd o wahaniaethu rhwng y gwrthrych a'r derbynnydd yw drwy drefn geiriau ac felly'r rheol yw bod y derbynnydd yn dod cyn y gwrthrych os nad oes arddodiad i ddynodi'r derbynnydd:
Mae yna hefyd gyflwr perchnogol yn Saesneg a ddefnyddir yn aml i ddadleoli'r arddodiad of: