Deddf gyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 Mae'r Ddeddf yn cynnwys diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan nodi yn arbennig y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael dwy iaith swyddogol - Cymraeg a Saesneg - ac y dylent gael eu trin yn gyfartal.

Daeth y Ddeddf i rym yn dilyn y pwerau deddfu ychwanegol a roddwyd i Gynulliad Cendlaethol Cymru yn dilyn Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011. Rhoddwyd cydsyniad brenhinol i’r Ddeddf ar 12 Tachwedd 2012.[1]

Mae'r Ddeddf hon yn arwyddocaol iawn gan mai dyma’r Ddeddf gyntaf i ddod yn gyfraith yng Nghymru mewn dros 600 mlynedd[2][3], pan ddiddymwyd sustem gyfreithiol wreiddiol Cymru gan Harri VIII yn ei ymgais i ddileu Cymru fel Gwlad a’r Gymraeg fel Iaith yn ystod Y Deddfau Uno 1536 a 1543.

Gweler Hefyd

Cyfeirnodau