Edward Kyffin
Ganwyd1557 Edit this on Wikidata
Croesoswallt Edit this on Wikidata
Bu farw1603 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, bardd, clerig Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a chyfieithydd oedd Edward Kyffin (hefyd Edward Cyffin) (tua 15581603). Ei brif waith llenyddol oedd cyfieithiad Cymraeg o ran o Salmau Dafydd. Roedd yn frawd i'r awdur a milwr Morris Kyffin.

Ganed Edward Kyffin yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig tua'r flwyddyn 1558. Offeiriad Anglicanaidd ydoedd o ran ei alwedigaeth.[1]

Cyfansoddodd drosiadau mydryddol ar fesur rhydd o hanner cant o salmau. Cafodd deuddeg o'r salmau hynny eu hargraffu gan Thomas Salisbury yn 1603 wrth y teitl Rhan o Salmau Dafydd Broffwyd. Roedd Salisbury yn byw yn Llundain ac roedd Edward yno gyda fo yn 1603 pan dorrodd y pla allan yn y ddinas. Dihangodd Salisbury ond arosodd Kyffin a bu farw o'r pla. Diflanodd y llyfrau i gyd yn dilyn hynny ac eithrio un copi a anfonwyd gan Salisbury neu Kyffin fel sampl o'r gwaith cyn ei gyhoeddi at Syr John Wynn o Wydir. Cyfrol Wynn yw'r unig gopi o'r gwaith anghyhoeddedig y gwyddys amdano heddiw; fe'i cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[2]

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

  1. Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, tud. 310.
  2. Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, tt. 310-11.