Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1867 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Caerfyrddin |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1867 yng Nghaerfyrddin ar 3-6 Medi 1867, o ddydd Mawrth i ddydd Wener.[1]
Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Milflwyddiant". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a'r beirniaid oedd Caledfryn a Cynddelw. Nid oedd y ddau yn gallu cytuno ar enillydd rhwng dwy awdl ddaeth i'r brig, felly trosglwyddwyd y penderfyniad at Ceiriog i dorri'r ddadl; penderfynodd mai 'Samuel Hopkins' oedd yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd y Parch Richard Parry (Gwalchmai). Nid oedd yn bresennol felly cadeiriwyd ei gynrychiolydd Mr J.P. Williams.[2]