Primat mawr lled-unionsyth o'r Hen Fyd sydd â breichiau hirion a brest lydan ond sydd heb gynffon na bochgoden yw'r epa (enw Lladin: Hominoidea). Mae ei symudiad rhydd yn wahanol iawn i lawer brimatiaid eraill, yn enwedig yng nghymal yr ysgwydd. Ceir dwy gainc o'r uwchdeulu Hominoidea: y gibon, neu'r 'epa lleiaf'; a'r hominid, sef yr 'epa mawr'. Mae'n anifail gwaed cynnes gyda ffwr ar ei groen. Yr epa mwyaf yw'r gorila cyffredin.