Fferm Ffactor | |
---|---|
Fformat | Cyfres adloniant |
Cyfarwyddwyd gan | Huw Erddyn Aneurin Thomas |
Cyflwynwyd gan | Daloni Metcalfe (2009–2013) Ifan Jones Evans (2014–) |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Nifer cyfresi | 11 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Huw Erddyn Aneurin Thomas |
Amser rhedeg | 50 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Cwmni Da |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Darllediad gwreiddiol | 20 Hydref 2009 – presennol |
Cysylltiadau allanol | |
Gwefan swyddogol |
Rhaglen adloniant cystadleuol yw Fferm Ffactor a ddarlledir ar S4C. Mae'r gyfres yn dangos 10 ffermwr yn cymryd rhan mewn nifer o dasgau yn y maes amaethyddol, wrth gystadlu am wobr o gerbyd 4x4 newydd. Ar ddiwedd bob rhaglen mae'r beirniaid yn dewis cael gwared un cystadleuydd. Yn ystod y rhaglen byddai'r ffermwyr yn gallu bwrw ei bol yn y 'cab cyffesu', caban tractor lle roedden nhw'n siarad yn uniongyrchol a chamera.[1]
Cynhyrchir y gyfres gan Cwmni Da. Seiliwyd y fformat ar y sioe Wyddelig Ffeirm Ffactor a ddarlledwyd ar sianel Wyddeleg TG4 yn Iwerddon. Erbyn hyn mae'r fformat wedi ei werthu yn fyd-eang.[2] Cyflwynydd y pum cyfres gyntaf oedd Daloni Metcalfe gydag Ifan Jones Evans yn cymryd drosodd yn 2014.
Yn 2015 daeth fformat newydd "Brwydr y Ffermwyr" lle byddai timau o dri ffermwr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Yn 2016 symudodd y darllediad i nos Sadwrn ac roedd pwyslais ar ffermwyr ifanc. Y wobr tro hon oedd taith i Batagonia.[3]
Nid oedd cyfres yn 2017 ond dychwelodd y sioe yn Chwefror 2018 gyda phedwar tîm o 'selebs' lle mae gan y capteiniaid brofiad y ffermio. Y beirniaid y gyfres hon oedd Caryl Gruffydd Roberts, Richard Tudor ac Wyn Morgan. Bydd y tîm buddugol yn ennill y teitl a chyfraniad o £3,000 i elusen o'u dewis.[4] Roedd ail gyfres a thrydedd gyfres yn 2019 a 2020.