Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 9,172 |
Gefeilldref/i | Ploermael |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.66°N 4.03°W |
Cod SYG | W04000964 |
Cod OS | SS585985 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
Tref a chymuned yn Sir Abertawe yw Gorseinon. Fe'i lleoli ger aber Afon Llwchwr, tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas. Mae Gorseinon hefyd yn gymuned llywodraeth leol gyda chyngor etholedig yn y dref. Pentref bychan ydoedd tan diwedd y 19g pan dyfodd yn sgîl y diwydiannau glo a thunplat.
Mae Caerdydd 63.9 km i ffwrdd o Orseinon ac mae Llundain yn 273.5 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 7.2 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]
Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd gan ardal cyngor tref Gorseinon boblogaeth o 7,814. Fodd bynnag, diffinia Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol y DU ardal a elwir Ardal Drefol Gorseinon sy'n cynnwys yr ardaloedd mwy poblog yn ac o amgylch Gorseinon. Mae'r ardal hon yn cynnwys Gorseinon, Casllwchwr, Pentre'r Ardd a Penlle'r-gaer ac roedd iddi boblogaeth o 19,273.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Gorseinon (pob oed) (8,693) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gorseinon) (1,113) | 13.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gorseinon) (7467) | 85.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Gorseinon) (1,394) | 37.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth