Math | bwrdeistref, old town ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Hebron ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 20.6 ha, 152.2 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 31.5253°N 35.1083°E ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Fel yr awgryma'r enw, mae Hen Ddinas Hebron (Arabeg: البلدة القديمة الخليل ) yng nghanol Hebron yn y Lan Orllewinol, Palesteina. Mae archeolegwyr yn credu bod Hebron hynafol wedi cychwyn yn rhywle arall yn wreiddiol, o bosib yn Tel Rumeida, sydd tua 200 metr i'r gorllewin o'r Hen Ddinas fel ag y mae heddiw, a chredir iddi fod yn ddinas Canaaneaidd yn wreiddiol. Sefydlwyd Hen Ddinas yng nghyfnod Gwlad Groeg neu Rufeinig (tua'r 3g i'r 1g CC). Daeth yn ganolbwynt safle cyffredinol Hebron yn ystod y Teyrnas yr Abbasid a ddechreuodd tua 750.
Cofrestwryd yr ardal fel y trydydd Safle Treftadaeth y Byd yng Ngwladwriaeth Palestina yn 2017.
Mae'r Hen Ddinas wedi'i hadeiladu o amgylch Ogof y Patriarchiaid, safle claddu traddodiadol y Patriarchiaid Beiblaidd a'r Matriarchiaid, ac mae Iddewon, Cristnogion a Mwslemiaid yn ei barchu. Mae'r Hen Ddinas yn lleoliad sensitif yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina yn Hebron.
Y man cyntaf lle ceir tystiolaeth o bobl, yn y ddinas, yw'r dyffryn i lawr yr allt o Tel Rumeida, a ystyrir yn ganolbwynt i'r Hebron Beiblaidd.[1] Nid tan ddechrau'r Abbasid y daeth y ddinas bresennol yn ganolbwynt Hebron, gan adeiladu o amgylch Ogof y Patriarchiaid.[2]
Mae strwythur trefol Hen Ddinas Hebron yn dyddio i gyfnod Mamluk, ac mae wedi aros yn ddigyfnewid, ar y cyfan [3] Mae mwyafrif yr adeiladau yn Otomanaidd o'r 18g ynghyd â thua hanner dwsin o strwythurau Mamluk gyda strydoedd cul rhyngddyn nhw[4] yn gweithredu fel ffin i bob ardal, gyda gatiau ar ddiwedd y prif strydoedd.[5] Mae gan yr Hen Ddinas arwynebedd o tua 20.6 hectar (51 acr; 0.206 km2), ac mae'n gartref i filoedd o drigolion.
Daeth yn drydydd Safle Treftadaeth y Byd yn Nhalaith Palestina yn 2017,[6] ac roedd wedi'i arysgrifio ar Restr swyddogol Treftadaeth y Byd mewn Perygl fel "Palestina, Hen Dref Hebron / Al-Khalil".[7]
Gosododd Cytundeb Hebron 1997, sy'n rhan o Oslo Accords, yr Hen Ddinas yn ardal "H2", reolaeth filwrol Israelaidd llym ers 1967.[8] Yn ôl adroddiad Btselem, dirywiodd poblogaeth Palestina yn yr Hen Ddinas yn fawr ers dechrau’r 1980au oherwydd effaith mesurau diogelwch Israel, gan gynnwys cyrffyw estynedig, cyfyngiadau llym ar symud, a chau gweithgareddau masnachol Palestina ger ardaloedd ymsefydlwyr, a hefyd oherwydd aflonyddu gan yr ymsefydlwyr Israelaidd.[9][10][11][12]
Ymatebodd yr IDF i'r adroddiad trwy ddweud bod "yr IDF yn ymwybodol iawn bod cyrffyw yn cael eu hystyried yn fesurau llym, na ddylid eu defnyddio heblaw am sefyllfaoedd lle maent yn hanfodol ar gyfer amddiffyn bywydau sifiliaid a milwyr... Hebron yw'r unig ddinas Palesteinaidd lle mae trigolion Israel a Phalestina yn byw ochr yn ochr. Oherwydd hyn, a’r nifer fawr o ymosodiadau terfysgol yn erbyn trigolion Israel a milwyr yr IDF yn eu gwarchod, mae’r ddinas yn gosod her ddiogelwch gymhleth." [9] Arweiniodd ymdrechion Pwyllgor Adsefydlu Hebron, a ariennir yn rhyngwladol, at ddychwelyd mwy na 6,000 o Balesteiniaid erbyn 2015.[13] Yn 2019, cafodd y sefydliad 'Presenoldeb Rhyngwladol Dros Dro yn Hebron' ei ddiarddel o'r ddinas gan yr IDF.[14] Cyhoeddodd adroddiad cyfrinachol a ganfu fod Israel yn torri cyfraith ryngwladol yn erbyn y Palisteiniaid yn Hebron yn ddyddiol, a'u bod yn “torri’n ddifrifol ac yn rheolaidd” yr hawliau i beidio â gwahaniaethu.[15]
Ar ddiwedd y 19g, cofnodwyd bod yr Hen Ddinas wedi'i rhannu'n naw chwarter, fel a ganlyn:[16]
Mae'r Hen Ddinas yn cynnwys tri anheddiad Israelaidd bychan, ar ei chyrion - Beit Hadassah, Beit Romano, ac Avraham Avinu - y disgrifiwyd eu bod yn ffurfio "cymdogaeth Iddewig, glos"[17] neu'r "Ardal Iddewig".[18] Roedd yr ardal Iddewig ar ddiwedd y 19g yn ardal y Gwneuthurwyr Gwydr (Haret Kezazin).[19][20]
Nid yw’r Unol Daleithiau wedi darparu unrhyw arian i UNESCO ers i Palestina gael ei dderbyn yn aelod llawn yn 2011. Cyfeiriodd gweinyddiaeth Obama at gyfraith a oedd yn bodoli eisoes sy'n gwahardd cyllido unrhyw asiantaeth neu aelod cyswllt y Cenhedloedd Unedig sy'n rhoi aelodaeth lawn i bobl nad ydynt yn wladwriaethau.[23] Rhoddwyd hyn ar waith ar ôl i Balesteina wneud cais am aelodaeth UNESCO a WHO ym mis Ebrill 1989.[24][25] Roedd yr Unol Daleithiau ac Israel ymhlith dim ond 14 allan o 194 gwladwriaeth a bleidleisiodd yn erbyn derbyn y Palestiniaid yn 2011 yn aelod llawn.[26]
Yn dilyn hynny, ceisiodd y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS) fynd i fewn i ddinas Hebron ond gwrthododd Israel fynediad iddo oherwydd "Ar lefel strategol ac egwyddorol, ni fydd Gwladwriaeth Israel yn cymryd rhan ac ni fydd yn cyfreithloni unrhyw symudiad gwleidyddol Palestina dan gochl diwylliant a threftadaeth."[27][28]
Settler violence has forced out over half the Palestinian population in some neighborhoods in the downtown area of Hebron. This once bustling community is now eerily deserted, and presents a harrowing existence for those few Palestinians who dare to remain or who are too deep in poverty to move elsewhere.