Joanna Penberthy | |
---|---|
Ganwyd | 1960 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd |
Offeiriad Anglicanaidd yw Joanna Susan "Jo" Penberthy (ganwyd 1960). Ers mis Medi 2015, mae wedi bod yn Rheithor Bywoliaeth Glan Ithon, sy'n cynnwys Llandrindod a'r pentrefi cyfagos, yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.[1][2] Rhwng 2016 a 2023 hi oedd Esgob Tyddewi yn yr Eglwys yng Nghymru.
Bu'n gweinidogaethu yn Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru a chyn hynny gwasanaethodd fel diacones yn Esgobaeth Durham ac Esgobaeth Llandaf, fel diacon yn Esgobaeth Llandaf, Esgobaeth Llanelwy, ac Esgobaeth Tyddewi, ac fel offeiriad yn Esgobaeth Tyddewi, Esgobaeth Bath a Wells, ac Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.[2]
Yn Nhachwedd 2016, cyhoeddwyd ei bod wedi ei dewis fel Esgob Tyddewi nesaf; y fenyw gyntaf i fod yn esgob yn yr Eglwys yng Nghymru.[3][4] Fe'i cysegrwyd yn esgob ar 21 Ionawr 2017 a'i gorseddu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 11 Chwefror 2017.[3] Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd nifer o negeseuon ar ei chyfrif Twitter personol oedd yn feirniadol o gefnogwyr y Blaid Geidwadol, gyda un neges yn dweud na ddylid "fyth, fyth, fyth ymddiried mewn Tori". Fe'i beirniadwyd gan nifer ac ym Mehefin 2021 fe ymddiheurodd.[5] Yn dilyn cyfnodau o salwch, cyhoeddwyd ym mis Mai 2023 y byddai Penberthy yn ymddeol ar ddiwedd Gorffennaf.[6][7] Ar 17 Hydref 2023, etholwyd yr hybarch Dorrien Davies yn Esgob Tyddewi.[8]