Kalahari
Mathanialwch, Deserts and xeric shrublands Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolKgalagadi Transfrontier Park Edit this on Wikidata
GwladBotswana, Namibia, Angola Edit this on Wikidata
Arwynebedd930,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,168 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Oren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23°S 22°E Edit this on Wikidata
Hyd4,000 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Anialwch yn neheudir Affrica yw'r Kalahari, yn ymestyn tros 900,000 km² (362,500 mi²), ar draws rhan helaeth o Botswana a rhannau o Namibia a De Affrica. Er ei fod yn anialwch, mae tyfiant sylweddol yno yn dilyn glawogydd.

Y Kalahari yw anialwch mwyaf deheuol Affrica. Mewn rhai rhannau, ceir hyd at 250 mm o law y flwyddyn, ac ni ellir ystyried y rhannau hyn yn wir anialwch. Fodd bynnag, mae'n wir anialwch yn y de-orllewin, lle mae llai na 175 mm o law y flwyddyn. Yn yr haf; ceir tymheredd rhwng 20 a 45 °C. yma.

Poblogaeth frodorol y Kalahari yw'r San, oedd yn draddodiadol yn byw bywyd hela a chasglu. Ceir hefyd rhywfaint o Tswana, Kgalagadi, Herero, ac Ewropeaid.

Lleoliaid anialwch y Kalahari
Y Kalahari yn Namibia
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.