Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Lerpwl, Dinas Lerpwl, Dinas Lerpwl |
Poblogaeth | 513,441 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Joanne Anderson |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glannau Merswy (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 111.84 km² |
Uwch y môr | 70 metr |
Gerllaw | Afon Merswy |
Cyfesurynnau | 53.4075°N 2.9919°W |
Cod post | L |
Pennaeth y Llywodraeth | Joanne Anderson |
Dinas yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Lerpwl (Saesneg: Liverpool). Saif ar lannau Afon Merswy.
Sefydlwyd Lerpwl fel dinas gan y brenin Seisnig John yn 1207 gyda dim ond 500 o bobl, ac arhosodd yn gymharol fach tan ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol; ar un adeg, oherwydd fod yma cymaint o Gymry Cymraeg, fe elwid y lle yn "Brifddinas Gogledd Cymru". Tyfodd drwy ddatblygu dociau enfawr. Un ffynhonnell sylweddol o arian oedd y masnach mewn caethweision o'r Affrig; a cheir arddangosfa ar hyn lawr yn y dociau. Poblogaeth Lerpwl ydyw 439,473 (Cyfrifiad 2001).
Heddiw y ddinas ydyw ardal canolog Glannau Merswy (Saesneg: Merseyside). Yr ardaloedd eraill ydyw Knowsley, Sefton, St Helens a Chilgwri (Saesneg: Wirral). Mae pobl tu allan i Lannau Merswy yn aml yn defnyddio 'Lerpwl' (mewn ffordd anghywir) i ddisgrifio'r holl ardal.
Adnabyddir poblogaeth Lerpwl fel 'Scousers' ar ôl y cawl cynhenid o'r enw scouse, sy'n debyg i gawl Cymreig. Symbol Lerpwl ydyw aderyn sy'n edrych yn debyg i filidowcar o'r enw Liver Bird (ynghanir fel 'Laifr'). Hen enw Cymraeg ar y ddinas yw Llynlleifiad. Mae rhai yn tybio mai hyn yn cyfeirio at yr aderyn 'Lleifr', hen enw am filidowcar. Os felly, 'Llyn y Bilidowcar' yw enw'r ddinas. Ond mae yna llawer o theoriau eraill am darddiad yr enw - does neb yn siŵr o ble y daeth.
Roedd yn brifddinas answyddogol i Ogledd Cymru am gyfnod maith ac mae llawer o'r boblogaeth presennol o gefndir Gymreig. Surodd y berthynas rhwng Cymru a Lerpwl pan foddwyd Capel Celyn a Chwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl ym 1965 er mwyn creu cronfa dŵr i gyflenwi dŵr i'r ddinas. Dywed rhai nad oedd angen boddi'r cwm o gwbl.[1]
Mae nofel Marion Eames Hela Cnau yn rhoi hanes dynes ifanc a aeth i weini o Ogledd Cymru i Lerpwl.
Lerpwl oedd Dinas Diwylliant Ewrop 2008.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl ym 1884, 1900 a 1929. Am wybodaeth bellach gweler:
Mae dros 2500 o adeiladau rhestredig yn y ddinas, gan gynnwys 25 sydd yn Gradd I.
Un o bensaeri enwocaf y ddinas oedd Richard Owen (1831 - 24 Rhagfyr 1891).
Roedd yn un o benseiri mwyaf toreithiog capeli Cymreig[2] a thai teras yn Lerpwl. Yn ôl yr hanesydd Dan Cruickshank Roedd Owens mor llwyddiannus gallai bod yn gyfrifol am (gynllunio) mwy o dai teras yng ngwledydd Prydain Oes Victoria na neb arall.[3]
Mae Merseytravel yn cydlynu trafnidiaeth yn ardal Glannau Merswy, gan gynnwys y ddinas.
Gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl yw'r brif orsaf sydd yn cysylltu Lerpwl gyda gweddill Lloegr a'r Alban. Mae trenau trydanol yn mynd o Lerpwl i Birmingham a Llundain ers 1 Ionawr 1962[4]. Cwblhawyd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Lerpwl a Manceinion ym Mai 2015. Mae gwasanaethau lleol yn cysylltu'r orsaf a Warrington, Preston a Wigan. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau rhwng Lerpwl, Caer a Wrecsam trwy Runcorn ers 19eg Mai 2019.[5]
Mae gwasanaethau ar y Llinell Gogleddol yn gweithredu o Hunts Cross yn y de o Lerpwl, drwy dwnnel o orsaf Brunswick drwy Lerpwl Canolog a Moorfields, i Southport. Mae gwasanaethau hefyd yn rhedeg o Lerpwl Canolog i Ormskirk a Kirkby.
Mae gwasanaethau ar y Llinell Cilgwri yn gweithredu o'r ddolen drwy Dwnnel Reilffordd Merswy i orsaf Hamilton Square ym Mhenbedw. Oddi yno, naill ai eu bod yn rhedeg i'r de i Hooton, lle maent yn parhau i naill ai Gaer neu Ellesmere Port, neu i'r gorllewin i ogledd Benbedw, lle mae'r llinell yn rhannu i New Brighton a West Kirby.
Mae trenau’r Llinell y Ddinas i gyd yn gadael Lime Street, ac yn mynd at Wigan neu at Fanceinion, Caer a Wrecsam neu Gryw; maent yn wasanaethau rheilffyrdd eraill yn hytrach na threnau Merseyrail.
Mae gwasanaeth fferi rhwng Lerpwl a Seacombe, a drefnir gan Mersey Ferries. Mae hefyd taith 50 munud ar Afon Merswy[6] Mae ganddynt ddau gwch, 'Snowdrop' a 'Royal Iris of the Mersey'.
Gweithredir mwyafrif gwasanaethau bysiau’r ardal gan gwmni Arriva, er bod cymnïau llai yn gweithio yn yr ardal hefyd, megis Cumfybus, HTL a Bysiau Avon.
Saif Maes Awyr John Lennon ar lan Afon Merswy, 6.5 cilomedr i'r de-ddwyrain o ganol y ddinas [7]. Enw gwreiddiol y maes awyr oedd Maes Awyr Speke; ailenwyd y maes awyr yn 2001. Mae awyrennau’n mynd o Lerpwl i Ewrop, gogledd Affrica a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae cerflun o John Lennon yn sefyll uwchben y neuadd ‘check in’, a gwelir ar y nenfwd y geiriau ‘Above us, only sky’, llinell o’r gân Imagine.
Mae Parc Chwareuon Wavertree yn gartref i glwb athletaidd Liverpool Harriers.
Mae bocsio’n boblogaidd yn Lerpwl, ac mae 22 o glybiau bocsio yn y ddinas.
Mae Clwb Criced Swydd Gaerhirfryn yn chwarae gemau yn Lerpwl bob tymor.[8] Mae Cystadleuaeth Criced Lerpwl a Chylch yn un bwysig.
Lleolir Clwb Golff Brenhinol Lerpwl yn Hoylake, ar Gilgwri. Cynhaliwyd y Bencampwriaeth Agored a Chwpan Walker yno sawl gwaith.
Mae Canolfan Gymnasteg Heol y Parc yn cynnig hyfforddiant o safon uchel.
Agorwyd canolfan nofio ym Mharc Chwareuon Wavertree yn 2008. Mae Clwb Nofio Dinas Lerpwl wedi bod yn bencampwyr y cynghrair genedlaethol wythwaith yn ystod yr un ar ddeg mlynydd diwethaf.
Mae gan Lerpwl 2 dîm yn chwarae yn Uwch Gyngrair Lloegr, Liverpool F.C., sydd yn chwarae yn Anfield, ac Everton F.C., sydd yn chwarae ym Mharc Goodison.
Mae Lerpwl yn un o 3 dinas ym Mhrydain lle chwareuir pêl fas (Caerdydd a Chas-Newydd yw’r lleill) Y clwb hynaf ym Mhrydain yw Liverpool Trojans.
Ymunodd Everton Tigers, yn cysylltiedig â’r club pêl-droed, â Chynghrair Brydeinig Pêl fasged yn 2007, yn chwarae yn Academi Chwareuon Greenbank, cyn symud i Arena Echo.Torrwyd y cysylltiad gyda’r clwb pêl-droed yn 2010, ac ail-enwyd y clwb Mersey Tigers.
Cynhelir y Grand National yn Aintree bob mis Ebrill.
Mae clybiau seiclo yn y ddinas, megys Liverpool Century, yn ogystal â nifer o glybiau seiclo cymdeithasol.[9]
Mae Clwb Criced Lerpwl wedi cynnal Cystadleuaeth Rhyngwladol Tenis Lerpwl ers 2014 [10]. Mae Rhaglen Ddatblygu Tenis Lerpwl, cynhaliwyd yng Nghanolfan Tenis Wavertree, yn un o’r mwyaf ym Mhrydain.
Dinas
Lerpwl
Trefi
Bebington ·
Bootle ·
Bromborough ·
Crosby ·
Formby ·
Halewood ·
Heswall ·
Hoylake ·
Huyton ·
Kirkby ·
Litherland ·
Maghull ·
New Brighton ·
Newton-le-Willows ·
Penbedw ·
Prescot ·
Southport ·
St Helens ·
Wallasey ·
West Kirby