Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,343 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.322°N 3.344°W |
Cod SYG | W04000195 |
Cod OS | SJ1064981425 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir y Fflint, Cymru, yw Llanasa.[1][2] Mae'n gorwedd tua 300 troedfedd i fyny wrth droed yr olaf o Fryniau Clwyd, tua 2 filltir a hanner i'r dwyrain o Brestatyn yng ngogledd-orllewin Sir Fflint. Y pentrefi cyfagos yw Talacre a Gwesbyr i'r gogledd, Ffynnongroyw i'r dwyrain a Gwaenysgor a Threlawnyd i'r gorllewin.
Yn ogystal â phentref Llanasa ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Gronant, Gwesbyr, Pen-y-ffordd, Talacre, Trelogan a Ffynnongroyw; mae hefyd yn cynnwys y Parlwr Du, y pwll glo mwyaf yn Sir y Fflint.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]
Enwir y plwyf ar ôl Sant Asa (Asaph). Ceir plasdy Castell Gyrn ar gyrion y pentref.
Yn yr Oesoedd Canol roedd beddfaen a chreiriau Sant Asaph ar gadw yn Eglwys Llanasa cyn iddynt gael eu symud i Eglwys Gadeiriol Llanelwy, rywbryd cyn y flwyddyn 1281. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, claddwyd Gruffudd Fychan, tad Owain Glyndŵr, yn yr eglwys hynafol hon. Mae ei feddfaen cerfiedig yn goroesi: ceir arno y geiriau Lladin HIC LACET GRVFVD VACHAN ("Yma y gorwedd Gruffudd Fychan"). Yn ôl cofnodion yr eglwys, roedd y garreg hon yn gorwedd yng nghanol y côr deheuol ar un adeg. Ymddengys y cafodd corff Gruffudd Fychan ei gladdu yno tua 1369-1370 (ceir peth ansicrwydd am ddyddiad ei farwolaeth). Mae lleoliad ei weddillion yn anhysbys heddiw.[5]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 4,820 yn 2001. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanasa (pob oed) (4,353) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanasa) (879) | 20.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanasa) (2119) | 48.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanasa) (781) | 40.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Ganwyd a magwyd y croniclydd a chyfieithydd Elis Gruffydd (c.1490-c.1552) yn Llanasa.
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog