Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 827, 746 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,535.7 ha |
Cyfesurynnau | 53.137°N 3.214°W |
Cod SYG | W04000164 |
Cod OS | SJ188604 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanferres( ynganiad ). Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol Bryniau Clwyd, ar y briffordd A494, tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r gogledd-ddwyrain a Rhuthun i'r de-orllewin.
Saif y pentref ar lan orllewinol Afon Alun. I'r gorllewin ceir bryngaer Foel Fenlli. yng nghanol y penterf mae Eglwys Sant Berres, Llanferres, a godwyd yn wreiddiol yn yr Oesoedd Canol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]
Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog).
Mae Morfudd ferch Urien a'i brawd Owain ab Urien yn ymddangos mewn hen chwedl werin Gymraeg a gysylltir a rhyd yn y plwyf a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi dillad. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyddyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.
Ganwyd yr ysgolhaig ac awdur Dr John Davies (c. 1567 - 1644), a adwaenir fel Dr John Davies, Mallwyd, yn Llanferres tua'r flwyddyn 1567.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanferres (pob oed) (827) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanferres) (162) | 20.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanferres) (337) | 40.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanferres) (93) | 30.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion