Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidiwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwriaethol.[1] Fe'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw lywodraeth a senedd arall. Y corff democrataidd, etholedig, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[2] Hyd at Mai 2020 yr enw ar Senedd Cymru oedd 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.

Aelodau'r Cabinet a Gweinidogion

Dyma gyfansoddiad presennol Llywodraeth Cymru (ers 13 Mai 2021):[3]

Portffolio Enw Etholaeth Plaid Tymor
Prif Weinidog Mark Drakeford AS Gorllewin Caerdydd Llafur 2018–
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans AS Gŵyr Llafur 2021–
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan AS Canolbarth a Gorllewin Llafur 2021–
Gweinidog yr Economi Vaughan Gething AS De Caerdydd a Phenarth Llafur 2021–
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS Wrexham Llafur 2021–
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS Bro Mogannwg Llafur 2021–
Y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS Gorllewin Abertawe Llafur 2021–
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles AS Castell-Nedd Llafur 2021–
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Mick Antoniw AS Pontypridd Llafur 2021–

Dirprwy Weinidogion

Portfolio Name Constituency Party Term
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle AS Torfaen Llafur 2021–
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS Gogledd Caerdydd Llafur 2018–
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip Dawn Bowden AS Merthyr Tudful a Rhymni Llafur 2021–
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters AS Llanelli Llafur 2021–
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn AS Delyn Llafur 2021–

Adrannau

Dyma'r adrannau Llywodraeth Cymru.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1.  Carwyn Jones unveils three new faces in Welsh cabinet. BBC (13 Mai 2011).
  2. "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  3.  Tîm newydd i arwain Cymru i ddyfodol mwy disglair. Llywodraeth Cymru (13 Mai 2021).

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.