Mai Jones | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1899 ![]() Casnewydd ![]() |
Bu farw | 7 Mai 1960 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr, pianydd, cyfansoddwr caneuon ![]() |
Cyflogwr | |
Math o lais | contralto ![]() |
Roedd Gladys May 'Mai' Jones (16 Chwefror 1899 – 7 Mai 1960) yn bianydd, cyfansoddwr a chynhyrchydd radio[1], sy'n cael ei chofio'n bennaf fel cyfansoddwr y dôn i'r gân "We'll Keep a Welcome".[2]
Ganwyd Jones yng Nghasnewydd yn unig ferch i Thomas John Jones, gorsaf-feistr y dref a Beatrice ei wraig. Roedd y tad yn Gymro Cymraeg a'r fam yn ddi-gymraeg, ond yn groes i'r arfer yng Ngwent y cyfnod, magwyd Mai i fod yn rhugl yn y ddwy iaith[3]. Er yn ifanc iawn dangosodd Mai dawn fel pianydd gan ennill mewn eisteddfodau. Yn 10 mlwydd oed fe'i penodwyd hi'n organydd Capel yr Annibynwyr Mynydd Seion, Casnewydd, ac fe'i penodwyd yn un o gyfeilyddion swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg Cerdd Brenhinol, Llundain.
Gan ganu llais, piano ac acordion a thrwy ddynwared artistiaid eraill, dechreuodd dod i sylw'r cyhoedd ar y sin adloniant ysgafn yn Llundain y 1920au. Bu'n aelod o sawl grŵp amlwg gan gynnwys The Five Magnets , The Carroll Sisters (gyda Elsie Eaves fel ei chwaer), The Three Janes a band dawns y BBC dan arweiniad Jack Payne, gyda band Payne gwnaeth ei darllediad radio gyntaf ym 1928.
Yn ystod yr ail ryfel byd bu Jones yn gweithio fel cyfarwyddwr radio i'r BBC, ymysg y rhaglenni poblogaidd a chynhyrchwyd ganddi oedd Welsh Rarebit, Saturday Starlight, Merry-go-round a Silver Chords; fel rhan o raglen Welsh Rarebit cyfansoddwyd We'll Keep a Welcome, a ganwyd am y tro cyntaf gan Gantorion Lyrian ar 29 Chwefror 1940[4].
Ymysg ei chyfansoddiadau nodedig eraill bu: Blackbirds (1924), Wondering If You Remember (1927), Nos Da/Good night (1946) a Rhondda Rhapsody (1951); hi fu'n gyfrifol am y gerddoriaeth a chynhyrchu'r pantomeim Cymraeg cyntaf i'w darlledu sef Twm Sïon Cati
Ymddeolodd o'r BBC ym 1960.
Ym 1947 priododd David Davies, cydweithiwr yn y BBC; ni fu iddynt blant.
Bu farw yn ei chartref, yng Nghasnewydd yn 61 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Sant Gwynllyw yn y dref.
Yn 2010 rhoddwyd plac glas ar furiau ei chartref olaf yn St Mark's Crescent, Casnewydd[5]