Math | gweriniaethau Rwsia |
---|---|
Prifddinas | Yoshkar-Ola |
Poblogaeth | 675,332 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem Swyddogol Y Weriniaeth Mari El |
Pennaeth llywodraeth | Yuriy Zaytsev |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Mari, Hill Mari |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rwsia Ewropeaidd, Dosbarth Ffederal Volga |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 23,200 km² |
Yn ffinio gyda | Oblast Nizhny Novgorod, Oblast Kirov, Tatarstan, Chuvash Republic |
Cyfesurynnau | 56.7°N 47.87°E |
RU-ME | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Q65420769 |
Corff deddfwriaethol | State Assembly of the Mari El Republic |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd y Weriniaeth Mari El |
Pennaeth y Llywodraeth | Yuriy Zaytsev |
Gweriniaeth sy'n aelod o Ffederasiwn Rwsia yw Gweriniaeth Mari El (Rwseg: Респу́блика Мари́й Эл Respublika Mariy El ; Mari: Марий Эл Республик Marii El Respublik). Trawslythrennir yr enw Mari El fel Mariy El neu Marii El hefyd weithiau. Sefydlwyd y weriniaeth ar y 4ydd o Dachwedd 1920. Mae'n rhan o ardal Dosbarth Ffederal Volga. Y brifddinas yw Yoshkar-Ola. Poblogaeth: 727,979.
Lleolir Mari El yng ngorllewin Ffederasiwn Rwsia, yn rhan ddwyreiniol Gwastadedd Ewropeaidd Rwsia. Mae'n ffinio ar Oblast Nizhny Novgorod, Oblast Kirov, Gweriniaeth Tatarstan a Gweriniaeth Chuvash. Mae tua 55% o'r weriniaeth yn goediog. Llifa Afon Volga trwy'r wlad a cheir dros 200 o lynnoedd.
Yn ôl Cyfrifiad Rwsia 2002, mae'r Mariaid - pobl Ffino-Wgraidd sydd wedi byw yn y rhanbarth ers tua'r 5g o leiaf - yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain erbyn hyn. Mae 47.5% o'r boblogaeth yn Rwsiaid a dim ond 42.3% yn Fariaid. Mae grwpiau ethnig eraill yn cynnwys y Tatar (6.0%), Chuvash (1.0%), ac Iwcrainiaid (0.7%).
Yn 2008, etholwyd arlywydd Rwsiaidd, Leonid Markelov. Yn ôl adroddiadau mae'r arlywydd wedi cau sawl papur newydd Mari mewn ymgyrch i Rwsieiddo Mari El. Gwaharddwyd llyfr ar y sefyllfa hefyd.[1]