Mary Lou McDonald
TD
Mary Lou McDonald yn 2018
Arweinydd y gwrthwynebwyr
Deiliad
Cychwyn y swydd
27 Mehefin 2020
ArlywyddMichael D. Higgins
Taoiseach
Rhagflaenwyd ganMicheál Martin
Llywydd Sinn Féin
Deiliad
Cychwyn y swydd
10 Chwefror 2018
Rhagflaenwyd ganGerry Adams
Is-lywydd Sinn Féin
Yn ei swydd
22 Chwefror 2009 – 10 Chwefror 2018
ArlywyddGerry Adams
Rhagflaenwyd ganPat Doherty
Dilynwyd ganMichelle O'Neill
Teachta Dála
Deiliad
Cychwyn y swydd
Etholiad cyffredinol Iwerddon 2011
EtholaethCanol Dulyn
Aelod o Senedd Ewrop
Yn ei swydd
1 Gorffennaf 2004 – 20 Mehefin 2009
EtholaethDulyn
Manylion personol
GanwydMary Louise McDonald
(1969-05-01) 1 Mai 1969 (55 oed)
Churchtown, Dulyn, Iwerddon
Plaid wleidyddolSinn Féin
Cysylltiadau gwleidyddol
arall
Fianna Fáil (1998–1999)
PriodMartin Lanigan (pr. 1996)
Plant2
Alma mater
  • Trinity College Dublin
  • University of Limerick
  • Dublin City University
GwefanGwefan swyddogol

Mary Lou McDonald yw Llywydd Sinn Féin a Teachta Dála ar gyfer etholaeth Canol Dulyn.

Bywyd Personol

Mae Mary Lou yn briod â Martin ac mae ganddynt ddau o blant ifanc, Iseult a Gerard.[1]

Addysg a gyrfa cynnar

Addysgwyd hi yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, Prifysgol Limerick a Phrifysgol Dinas Dulyn ac astudiodd Lenyddiaeth Saesneg, Astudiaethau Integreiddio Ewropeaidd a Rheoli Adnoddau Dynol. Cyn hynny bu’n gweithio fel ymgynghorydd i'r Canolfan Cynhyrchiant Gwyddelig, yn ymchwilydd i’r Sefydliad Materion Ewropeaidd ac yn hyfforddwr yn Uned Partneriaeth yr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Addysg a Hyfforddiant a noddir gan undebau llafur.[1]

Gyrfa wleidyddol

Bu’n Aelod o Senedd Ewrop dros Ddulyn o 2004 i 2009 ac yn ystod ei chyfnod yn Senedd Ewrop roedd Mary Lou yn aelod o’r pwyllgor Cyflogaeth a Materion Cymdeithasol a’r pwyllgor Rhyddid Sifil.

Yn dilyn ei hethol i’r Dáil yn 2011 Mary Lou oedd Llefarydd Sinn Féin ar Wariant Cyhoeddus a Diwygio ac ar ei hail-etholiad yn 2016 Llefarydd Iwerddon Gyfan Sinn Féin dros Iechyd Meddwl ac Atal Hunanladdiad.

Bu’n aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rhwng 2011 a 2017 gan ddwyn Gweinidogion ac uwch weision sifil i gyfrif. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar Gyd-bwyllgorau’r Oireachtas ar gyfer Gwariant Cyhoeddus a Diwygio a Dyfodol Iechyd Meddwl.

Cyn dod yn Arweinydd Sinn Féin ym mis Chwefror 2018, roedd Mary Lou yn Ddirprwy Arweinydd y blaid.

Mae hi'n cynrychioli Canol Dulyn fel Teachta Dála ac yn Llywydd Sinn Féin.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 "Mary Lou McDonald TD". www.sinnfein.ie. Cyrchwyd 2023-09-22.