Math | cyffur, pharmaceutical product |
---|---|
Rhan o | pharmacy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sylwedd cemegol a ddefnyddir mewn diagnosis, iachâd, triniaeth, neu i atal clefyd yw meddyginiaeth, moddion neu ffisig (hefyd cyffur meddyginiaethol neu gyffur fferyllol).
Defnyddir y System Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol (ATC), a reolir gan Ganolfan Gydweithiol Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) dros Fethodoleg Ystadegau Cyffuriau, i ddosbarthu cyffuriau meddyginiaethol ers 1976.
Hawdd iawn yw anghofio cymaint oedd ein cyndeidiau yn dibynnu ar feddyginiaethau llysieuol tan yn gymharol ddiweddar:
Syndod efallai yw gweld cyfeiriadau mynych at laudenum yng nghefn gwlad Cymru (opiad neu gyffur cysgu yn seiliedig ar y pabi ac yn cael ei ddefnyddio llawer yn Oes Fictoria yw hwn) ac ‘obadildo’ (beth bynnag oedd hwnnw!) yng nghefn dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron ar gyfer y flwyddyn 1897.[2]
Arferai’r beirdd gymryd laudenum i hybu’r awen - beirdd fel Samuel Taylor Coleridge. Cafodd Coleridge ei styrbio ynghanol cyfansoddi ei gerdd enwog Kubhla Khan dan ddylanwad y cyffur hwn ac erbyn iddo ddychwelyd at y gwaith roedd yr awen wedi diflannu. Bu hen regi mae’n
siŵr!
Sylwodd Brenda Jones, trawsgrifydd dyddiaduron William Jones, bod ei ysgrifen wedi mynd yn flêr o Chwefror ymlaen [1]. Effaith y ‘cyffuriau’ hyn o bosib?
Mae William Jones yn nodi moddion i wella anhwylderau:
Yn ôl hysbyseb yn ei ddyddiadur, dyma oedd ar gael at anhwylderau yn 1880:[3]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.