Enghraifft o'r canlynol | uned amser, Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, uned sy'n deillio o UCUM |
---|---|
Math | cyfnod o amser |
Rhan o | awr |
Yn cynnwys | eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae munud (enw gwrywaidd neu fenywaidd) yn uned o amser sy'n hafal i 60 eiliad neu 1/60ed rhan o awr. Dydy munud ddim yn uned ryngwladol safonol (yr SI) yn swyddogol, ond caiff ei derbyn ar y cyd â'r rhestr hon.[1]
Y symbol ryngwladol am funud ydy min, o'r Saesneg minute.
Mae'n debyg mai'r Babilioniaid ddechreuodd rhannu awr yn chwe-deg rhan, a'r awr (ac eiliad) yn chwe-deg rhan hefyd gan eu bod yn defnyddio system gyfrif wedi'i seilio ar y rhif 60.
Gall munud, ar lafar, olygu "ychydig bach o amser" heb ffiniau pendant o 60 eiliad e.e. yn y linell enwog gan Waldo Williams "Un funud fach cyn elo'r haul o'r wybren..." mae'r bardd yn golygu ysbaid o amser yn hytrach na'r diffiniad mathemategol.