Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 498 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9428°N 4.7031°W |
Cod SYG | W04000452 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Mynachlog-ddu.[1] Saif yn nwyrain y sir, ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A478, ac i'r de-orllewin o bentref Crymych. I'r gorllewin o'r pentref mae copaon Mynydd Preseli. Credir fod rhai o gerrig Côr y Cewri wedi dod o Gaermeini, neu'n fwy cywir Carn Menyn gerllaw.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Dogfael; cyn diddymu'r mynachlogydd roedd y plwyf yn eiddo i Abaty Llandudoch. Roedd Thomas Rees (Twm Carnabwth) (1806 - 1876), un o arweinwyr Merched Beca, yn frodor o Fynachlog-ddu, ac mae wedi ei gladdu yma. Bu'r bardd Waldo Williams yn byw yma o 1911 hyd 1915, pan oedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd, ac yma y dysgodd Gymraeg. Ceir cofeb iddo gerllaw'r pentref.
Bu'r Parch Parry Roberts a oedd yn frodor o Sir Fôn yn weinidog ar gapel y Bedyddwyr yma am gyfnod hir. Ef oedd un o'r ymgyrchwyr yn erbyn y Weinyddiaeth filwrol gymryd drosodd ffermydd yr ardal i'w gwneud yn ardal ymarfer rhyfel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Mynachlog-ddu (pob oed) (494) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mynachlog-ddu) (204) | 42.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mynachlog-ddu) (244) | 49.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Mynachlog-ddu) (62) | 29.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau · Arberth · Abergwaun · Cilgerran · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · Hwlffordd · Neyland · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach · Abercastell · Abercuch · Abereiddi · Aberllydan · Amroth · Angle · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd-bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm-yr-Eglwys · Dale · Dinas · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Jeffreyston · Johnston · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maiden Wells · Manorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Pentre Galar · Pontfadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Fflwrens · Sain Ffrêd · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Trefwrdan · Treglarbes · Tre-groes · Treletert · Tremarchog · Uzmaston · Waterston · Yerbeston