Nennius | |
---|---|
Ganwyd | 8 g |
Bu farw | 9 g |
Galwedigaeth | mynach, hanesydd, ysgrifennwr |
Blodeuodd | 9 g |
Adnabyddus am | Historia Brittonum |
Cysylltir Nennius, neu Nemnivus (floruit efallai tua 800), a’r traethawd Lladin Historia Brittonum, sy’n ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes cynnar Cymru.
Mae cryn dipyn o amheuaeth ai Nennius oedd awdur yr Historia Brittonum. Mae un teulu o lawysgrifau o’r testun yma yn ei briodoli i ‘Nennius, gostyngedig was a gweinidog Crist, trwy ras Duw, disgybl Elvodugus’. Credir mai Elfodd (weithiau Elfoddw) oedd Elvodugus; mae cyfeiriadau ato yn yr Annales Cambriae yn perswadio eglwys Cymru i newid eu dull o benderfynu dyddiad y Pasg i gydymffurfio a gweddill yr eglwys Gatholig. Roedd hyn yn 768, ac yn nes ymlaen cyfeirir at farw Elfodd yn 809. Gellir casglu felly fod y Nennius yma yn ei flodau tua’r flwyddyn 800.
Yn ôl David N. Dumville dim ond un teulu o lawysgrifau sy’n priodoli yr Historia Brittonum i Nennius, ac mae’r rhain i gyd yn deillio o lawysgrif o’r 11g, tra nad yw llawysgrifau sy’n deillio o ffynhonnell gynharach yn priodoli’r gwaith i Nennius.
Mae hefyd gofnod mewn llawysgrif Gymraeg o’r 9g am ysgolhaig o’r enw Nennius a atebodd gyhuddiad ysgolhaig Sacsonaidd nad oedd gan y Brythoniaid ei gwyddor eu hunain trwy ddyfeisio gwyddor yn y fan a’r lle. Nid oes sicrwydd a yw hwn yr un person â Nennius, disgybl Elfodd.