Math | prifysgol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.4675°N 2.2325°W |
Sefydlwydwyd gan | John Owens |
Prifysgol ym Manceinion, Lloegr oedd Coleg Owens (Saesneg: Owens College). Sefydlwyd ef ym 1851 ac adnabyddir y coleg ers siarter 1904 fel Victoria University of Manchester, pan drodd yn brifysgol annibynnol. Yn 2004 unwyd y coleg gydag University of Manchester Institute of Science and Technology ac mae bellach yn rhan o Brifysgol Manceinion
Sefydlwyd y brifysgol ym 1851 gan John Owens, a arbenigai mewn tecstiliau ac a adawodd yn ewyllys o £96,942 i sefydlu'r coleg. Roedd tad John Owens (Owen Owens) yn wreiddiol o Sir y Fflint. Gwnaeth y cyfraniad ariannol hwn ar yr amod na roddid profion crefyddol i'r myfyrwyr.