Dinas fwyaf Pennsylvania a'r chweched mwyaf o ran poblogaeth yn Unol Daleithiau America yw Philadelphia. Mae'n gorwedd yn Philadelphia County, ac yn gwasanaethu fel sedd llywodraeth y swydd honno. Ei enw ar lafar yw "Dinas Brawdgarwch" (Saesneg: "the City of Brotherly Love") (Groeg: Φιλαδέλφεια, philadelphia, "brawdgarwch," o'r gair philos "cariad" ac adelphos "brawd").
Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o 1.4 million. Mae Philadelphia yn un o ganolfannau masnach, addysg, a diwylliant pwysicaf yr Unol Daleithiau. Yn 2006 amcangyfrifwyd fod gan ardal ddinesig Philadelphia boblogaeth o 5.8 miliwn, y bumed fwyaf yn UDA.
Yn y 18g, roedd Philadelphia y ddinas fwyaf poblog yn y wlad[1]. Mae'n debyg iddi fod yr ail fwyaf poblog, ar ôl Llundain, yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Y pryd hynny roedd yn bwysicach na dinasoedd Boston a Dinas Efrog Newydd yn nhermau dylanwad gwleidyddol a chymdeithasol, gyda Benjamin Franklin yn chwarae rhan bwysig yn ei goruchafiaeth. Philadelphia oedd canolbwynt cymdeithasol a daearyddol yr 13 gwladfa Americanaidd gwreiddol. Yno yn anad unlle arall y ganwyd y Chwyldro Americanaidd a arweiniodd at greu'r Unol Daleithiau.
Daeth y bobl gyntaf i gyrradd o Ewrop o Swede a'r Iseldiroedd]]yn ystod yr 17g. Cyrhaeddodd William Penn ar 24 Hydref 1682, ac arwyddodd gytundeb efo'r llwyth brodorol. Sefydlwyd addoldy i'r Crynwyr ym 1698. Crewyd y ddinas ar 2 Chwefror 1854 gan uno nifer o anneddiadau bychain.[2]
Mae gan Philadelphia nifer o safleoedd hanesyddol sy'n ymwneud â sefydlu'r Unol Daleithiau. Parc Hanesyddol Annibynniaeth Cenedlaethol sy'n ganolbwynt i'r mannau hanesyddol hyn. Y Neuadd Annibyniaeth (yn Saesneg "Independence Hall"), lle arwyddwyd y Datganiad o Annibynniaeth a'r Gloch Rhyddid (yn Saesneg "Liberty Bell") yw atyniadau enwocaf y ddinas. Mae safleoedd hanesyddol eraill yn cynnwys cartrefi Edgar Allan Poe, Betsy Ross, a Thaddeus Kosciuszko, adeiladau'r llywodraeth gwreiddiol, megis Y Banc Cyntaf ac Ail Fanc yr Unol Daleithiau, Ffort Mifflin, a'r Gloria Dei (Old Swedes') Safle Hanesyddol yr Eglwys Genedlaethol.
Mae prif amgueddfeydd gwyddonol Philadelphia'n cynnwys y Franklin Institute, sy'n cynnwys Cofeb Cenedlaethol Benjamin Franklin, yr Academi o Wyddorau Naturiol ac Amgueddfa Archeoleg ac Athropoleg Prifysgol Pennsylvania. Ymysg yr amgueddfeydd hanesyddol, ceir y Ganolfan Cyfansoddiad Cenedlaethol, Amgueddfa Atwater Kent o Hanes Philadelphia, Cymdeithas Hanesyddol Philadelphia, yr Amgueddfa Cenedlaethol am Hanes Iddewig, Amgueddfa Arforol, Amgueddfa Americaniaid Affricanaidd yn Philadelphia, Y Gyfrinfa Fawr Seiri Rhyddion a Dethol Talaith Pennsylvania ac Amgueddfa'r Seiri Rhyddion. Yn Philadelphia y ceir sŵ ac ysbyty cyntaf yr Unol Daleithiau.
Gwasanaethir y ddinas a maestrefi gan SEPTA, ( Southeastern Pennsylvania Transportation Authority) sydd yn cynnig bysiau, trenau a thramiau ledled yr ardal ac yn estyn heibio ffiniau Pennsylvania i Jersey Newydd a Delaware.[3] Mae Gorsaf reilffordd 30fed Stryd yn un brysur ar Goridor y Gogledd-ddwyrain Amtrack, defnyddir gan drenau Amtrak, SEPTA, a New Jersey Transit.[4][5][6]
Mae gan y ddinas faes awyr rhyngwladol. Côd y maes awyr yw PHL.[7]