R. Gerallt Jones | |
---|---|
Ganwyd | 11 Medi 1934 Nefyn |
Bu farw | 9 Ionawr 1999 Dôl-y-bont |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd |
Llenor Cymraeg oedd Robert Gerallt Hamlet Jones, yn ysgrifennu fel R. Gerallt Jones (11 Medi 1934 - 9 Ionawr 1999).[1]
Ganed ef yn Nefyn, Gwynedd, yn fab i ficer Anglicanaidd. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, gan ysgrifennu traethawd M.A. ar waith Robert Graves. Tra'r oedd yno, lansiodd gylchgrawn Yr Arloeswr gyda Bedwyr Lewis Jones. Bu'n brifathro Coleg Athrawon Mandeville yn Jamaica o 1965 hyd 1967, yna'n Warden Coleg Llanymddyfri hyd 1976, cyn dod yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Aberystwyth hyd 1989. O 1989 hyd 1995, bu'n warden Plas Gregynog.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn 1977 a 1979.