Robert Croft | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Mai 1970 ![]() Treforys ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr ![]() |
Gwobr/au | MBE ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm criced cenedlaethol Lloegr, Clwb Criced Morgannwg, Marylebone Cricket Club ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Cricedwr, Cymro Cymraeg ac aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd ydy Robert Damien Bale Croft (ganwyd 25 Mai 1970 yn Abertawe). Chwaraeodd i dimoedd Morgannwg, Cymru a Lloegr. Bu'n gapten ar Forgannwg rhwng 2003 a 2006 a'r Cymro cyntaf i gymryd 1,000 o wicedi mewn gemau Dosbarth Cyntaf a sgorio 10,000 o rediadau a hynny ym Medi 2007.
Aeth i Ysgol Babyddol St. John Lloyd's yn Llanelli ac yna i Goleg Technegol Abertawe.
Chwaraeodd i dîm Lloegr a Chymru gyntaf yn erbyn Pacistan yn 1996 ac yna chwaraeodd yn Simbabwe a Seland Newydd. Yno, yn Christchurch cymerodd 5 wiced am 95 rhediad. Roedd ei sgôr dros y gaeaf hefyd yn arbennig: 182.1-53-340-18.
Chwaraeodd yn y Lludw yn 1997 ond cafodd ei adael allan o'r sgwad ar ôl cnocio cyfartaledd o 54 efo'r bêl. Ond yn nhrydydd prawf 1995 yn erbyn De Affrica achubodd y dydd i Loegr a Chymru pan sgoriodd 37 heb fod allan.
Roedd ei gêm genedlaethol (neu gêm brawf) olaf yn gemau'r Lludw yn Trent Bridge yn 2002. Bowliodd tair pelawd yn unig a chafodd wahoddiad i chwarae yn y prawf nesaf yn India. Gan fod hyn ychydig amser ar ôl 7/11 gwrthododd y cynnig ar sail diogelwch. Ni chwareodd chwaith yn Sri Lanca, a phan ddychwelodd oddi yno, cyhoeddodd ei ymddiswydiad o chwaraeon cenedlaethol er mwyn canolbwyntio ar gapteiniaeth Morgannwg.
Ym Medi 2006, wedi dim ond dwy fuddugoliaeth allan o 16 gêm, ymddiswyddodd fel capten Morgannwg.
Lloegr 'A'
Lloegr
Morgannwg (1989 – hyd yma)
Pencampwyr