Grŵp mawr o blanhigion blodeuol yw'r rosidau (Saesneg: rosids). Maent yn amrywio yn fawr o ran golwg ond mae ganddynt ddail cyfansawdd fel rheol. Maent yn cynnwys blodau addurnol megis rhosod, ffrwythau megis afalau, ceirios a mefus a chodlysiau megis pys a ffa.
Mae'r rosidau'n cynnwys mwy na 70,000 o rywogaethau mewn 17 urdd yn ôl y system APG III:[1]
- Vitales: 1 teulu, 850 rhywogaeth
- Fabidau (Ewrosidau I)
- Zygophyllales: 2 deulu, 305 rhywogaeth
- Celastrales: 2 deulu, 1355 rhywogaeth
- Oxalidales: 7 teulu, 1815 rhywogaeth
- Malpighiales: 36 teulu, 15,935 rhywogaeth
- Cucurbitales: 7 teulu, 2295 rhywogaeth
- Fabales: 4 teulu, 20,055 rhywogaeth
- Fagales: 7 teulu, 1055 rhywogaeth
- Rosales: 9 teulu, 7725 rhywogaeth
- Malfidau (Ewrosidau II)
- Geraniales: 3 theulu, 836 rhywogaeth
- Myrtales: 9 teulu, 11,027 rhywogaeth
- Crossosomatales: 7 teulu, 66 rhywogaeth
- Picramniales: 1 teulu, 46 rhywogaeth
- Huerteales: 3 theulu, 24 rhywogaeth
- Brassicales: 17 teulu, 4765 rhywogaeth
- Malvales: 10 teulu, 6005 rhywogaeth
- Sapindales: 9 teulu, 6070 rhywogaeth
- Mauseth, James D. (2009) Botany: an introduction to plant biology (4ydd arg.), Jones & Bartlett, Sudbury, Massachusetts.
- Stevens, P. F. (2001 ymlaen). Angiosperm Phylogeny Website. Adalwyd ar 17 Ebrill 2012.