Defnyddir yr enw Sioux am nifer o grwpiau ethnig brodorol yn yr Unol Daleithiau. Rhennir hwy i dair prif adran:
Isanti ("Cyllell", yn wreiddiol o enw llyn yn Minnesota): yn byw yn nwyrain taleithiau Gogledd a De Dakota, yn Minnesota a gogledd Iowa. Gelwir hwy yn aml yn Santee neu'n Dakota.
Ihanktowan-Ihanktowana ("Pentref-yn-y-pen-draw" a "Pentref-bychan-yn-y-pen-draw", yn byw yn ardal Afon Minnesota. Ystyrir hwy fel y Sioux canol, ac yn aml gelwir hwy yn Yankton neu'n Dakota Gorllewinol.
Teton ("Preswylwyr y Paith"): y Sioux mwyaf gorllewinol, yn enwog fel helwyr a rhyfelwyr; gelwir hwy yn Lakota.
Heddiw mae tua 150,000 o Sioux, gyda gwarchodfeydd iddynt yng Ngogledd a De Dakota, Minnesota, Nebraska, a Manitoba a de Saskatchewan yng Nghanada.
Sioux enwog
Hanesyddol
Taoyateduta (Little Crow) — Pennaeth yn ystod Rhyfel Dakota 1862