Suetonius | |
---|---|
Ganwyd | Caius Suetonius Tranquillus c. 70, c. 69 Unknown |
Bu farw | c. 126, 140 yr Ymerodraeth Rufeinig |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, hanesydd, ysgrifennydd, cofiannydd, bardd, hynafiaethydd |
Swydd | barnwr, ab epistulis |
Adnabyddus am | The Twelve Caesars |
Arddull | cofiant |
Hanesydd Rhufeinig oedd Gaius Suetonius Tranquillus (ca. 69/75 - ar ôl 130), a adnabyddir fel rheol fel Suetonius.
Ganed Suetonius yn Hippo Regius (yn awr Annaba, Algeria), yn fab i Suetonius Laetus, a fu'n ymladd dros yr ymerawdwr Otho yn erbyn Vitellius ym mrwydr gyntaf Bedriacum yn 69.
Roedd yn gyfaill i'r Seneddwr Plinius yr Ieuengaf, a thrwyddo ef daeth i sylw yr ymerodron Trajan a Hadrian. Bu'n gwasanaethu dan Plinius pan oedd Plinius yn broconswl Bithynia Pontus o 110 hyd 112. Yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd i'r ymerawdwr Hadrian, ond yn 122, diswyddodd Hadrian ef am ddangos diffyg parch i'r ymerodres Vibia Sabina. Mae'n posibl ei fod wedi cael ei swydd yn ôl yn nes ymlaen.
Ei waith enwocaf yw De Vita Caesarum ("Bywydau'r Cesariaid", bywgraffiadau o Iŵl Cesar, Augustus, Tiberius, Caligula, Claudius, Nero, Galba, Otho, Vitellius, Vespasian, Titus a Domitian. Heblaw ychydig lyfrau o'r bywgraffiad o Iŵl Cesar, cadwyd y cyfan o hwn, ond dim ond darnau o'i weithiau eraill sydd ar gael:
Gwyddir hefyd am nifer o weithiau sydd wedi eu colli.