Teilo | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Penalun |
Bu farw | 9 Chwefror 560 Llandeilo |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 9 Chwefror |
Tad | Eusyllt |
Mam | Gwenhaf |
Roedd Sant Teilo (neu Eliau; Cernyweg: Eliud), (fl. 6g) yn un o brif seintiau yr eglwys gynnar yng Nghymru.
Cysylltir ef a de-orllewin Cymru yn bennaf, a dywedir ei fod yn fab i Ensig ap Hydwn ap Ceredig o Geredigion. Yn ôl buchedd lawer diweddarach, ganed ef ger Penalun yn ne Sir Benfro a bu'n ddisgybl i sant Dyfrig cyn astudio dan Peulin yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn gyfoeswr i Dewi ac mae traddodiad iddo fod ar bererindod i Jerusalem gydag ef. Dywedir iddo fod yn Esgob Llandeilo ac Esgob Tyddewi. Dywedir iddo ffoi i Lydaw rhag y Fad Felen yn 547, ac ymweld a sant Samson yn Dol. Mae ei ben yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, wedi iddo gael ei gadw am ganrifoedd ar fferm ym Maenclochog yn Sir Benfro.
Mae cyfeiriadau yn Llyfr Sant Chad, a elwid yn wreiddiol yn "Llyfr Teilo" yn ôl pob tebyg, yn profi ei fod yn cael ei anrhydeddu yn ne-orllewin Cymru yn yr 8fed a'r 9g. Mae Buchedd Teilo yn Llyfr Llandaf yn dyddio o'r 12g.
Prif sefydliad Teilo oedd y clas yn Llandeilo Fawr yn Sir Gaerfyrddin. Dywedir mai ef a sefydlodd y clas gwreiddiol ar safle Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac mae nifer sylweddol o eglwysi eraill yn ne Cymru wedi eu cysegru iddo. Yn ôl traddodiad, bu'n pregethu yn Llydaw hefyd, ac mae nifer o enwau lleoledd yno yn cyfeirio ato. Ei ddydd gŵyl yw 9 Chwefror.
Ceir eglwys wedi ei gysegru iddo yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd. Enwir Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant yng Nghaerdydd ar ei ôl hefyd, Eglwys Sant Teilo.
Ceir dros 25 o bentrefi ac eglwysi (neu 'glasau' cyn hynny), mewn tair gwlad, sy'n dwyn ei enw gan gynnwys:
Ceir 5 plwyf yn Llydaw a enwyd ar ôl Teilo.
Rhestr Wicidata: