Math | dinas fawr, city in British Columbia, tref ar y ffin |
---|---|
Enwyd ar ôl | George Vancouver |
Poblogaeth | 662,248 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ken Sim |
Cylchfa amser | UTC−08:00, America/Vancouver |
Gefeilldref/i | Caeredin |
Daearyddiaeth | |
Sir | Metro Vancouver Regional District |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 115 km² |
Uwch y môr | 2 metr |
Gerllaw | Afon Fraser, Burrard Inlet, English Bay |
Yn ffinio gyda | West Vancouver, Burnaby, University Endowment Lands, Richmond, North Vancouver |
Cyfesurynnau | 49.2608°N 123.1139°W |
Cod post | V5K |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Vancouver |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Vancouver |
Pennaeth y Llywodraeth | Ken Sim |
Sefydlwydwyd gan | William Cornelius Van Horne |
Dinas yng ngorllewin Canada yw Vancouver.
Vancouver yw dinas fwyaf talaith British Columbia ar arfordir gorllewinol Canada. Sefydlwyd gwladfa fach o'r enw "Gastown" ar y safle ym 1862 a datblygodd yn dre fach o'r enw "Granville". Ailenwyd y dre yn "Vancouver" ym 1886 ar ôl y fforiwr George Vancouver (1757-1798).
Erbyn heddiw mae hanner miliwn o bobl yn byw yn y ddinas gyda dros 2 miliwn yn ardal ddinesig Vancouver Fwyaf. Mae ardal dinas Vancouver yn cynnwys bron hanner poblogaeth talaith British Columbia.
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn Vancouver, ynghyd â thref Whistler.
Mae Bysiau Greyhound yn mynd i ddinasoedd eraill yn Ganada. Mae bysiau Pacific yn mynd i Victoria a Whistler, Snowbws i Whistler; mae bysiau Cantrail a Quick Shuttle yn mynd i Seattle.
Mae Feriau BC yn cysylltu'r ddinas â'r ynysoedd yn Columbia Brydeinig. Mae Seabus yn mynd o derminws Waterfront, ynghanol y ddinas, i Ogledd Vancouver
Mae trenau VIA Rail yn mynd i ddinasoedd eraill yng Nghanada, ac mae Amtrak yn croesi'r ffin i Portland, Oregon a Seattle.
Mae gan Vancouver maes awyr rhyngwladol (YVR), ac mae awyrennau môr yn cynnig gwasanaethau o'r harbwr i'r ynysoedd.
Mae Translink yn cynnig cludiant yn ardal Vancouver, gan gynnwys bysiau a threnau. Mae Skytrain yn cynnwys 2 lein, ac mae un arall, Canada Line, yn mynd o'r ddinas i'r maes awyr.
Mae West Coast Express yn gyfres o drenau 5 yn y bore o Mission i Vancouver, a 5 yn y prynhawn yn ôl i Mission, rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Mae gwasanaeth bws hefyd.[1]