Dawns neuadd a ddatblygodd o'r Ländler yn y 18g yn yr Almaen ac Awstria yw'r walts[1][2] neu'r wals.[2]
Prif nodwedd y walts yw troedio, llithro, a throedio mewn amser triphlyg tra'n cylchdroi. Yn ei dyddiau cynnar, roedd y walts yn sioc ac yn codi gwrychyn rhai cymdeithasau o fewn Ewrop gan yr anghenraid i gyplau gofleidio'i gilydd yn glos. Ond erbyn y 19g, hon oedd y ddawns neuadd fwyaf poblogaidd, a pharhaodd ei bri drwy'r 20g.[3]
Ymhlith y cyfansoddwyr clasurol a gyfansoddodd waltsiau mae Frédéric Chopin, Pyotr Ilyich Tchaikovsky, Johann Strauss I a Johann Strauss II.
Benthycair o'r gair Saesneg waltz yw "walts".[1] Daw'r gair Saesneg o'r Almaeneg, walzen, sef "i gylchdroi".[3]