Whitney Houston | |
---|---|
Ganwyd | Whitney Elizabeth Houston 9 Awst 1963 Newark, New Jersey |
Bu farw | 11 Chwefror 2012 The Beverly Hilton |
Label recordio | Arista Records, RCA Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm, cynhyrchydd recordiau, artist recordio, actor teledu |
Adnabyddus am | I Wanna Dance with Somebody, How Will I Know, Saving All My Love for You, The Greatest Love of All |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth yr efengyl, urban contemporary |
Math o lais | mezzo-soprano |
Mam | Cissy Houston |
Priod | Bobby Brown |
Plant | Bobbi Kristina Brown |
Perthnasau | Dee Dee Warwick |
Gwobr/au | Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Grammy, Rock and Roll Hall of Fame, Billboard Millennium Award |
Gwefan | https://www.whitneyhouston.com/ |
llofnod | |
Cantores, cyfansoddwraig, actores, cynhyrchydd recordiau a model ffasiwn o'r Unol Daleithiau oedd Whitney Elizabeth Houston (9 Awst 1963 – 11 Chwefror 2012). Dechreuodd Houston gael enwogrwydd rhyngwladol yng nghanol y 1980au ac arweiniodd ei llwyddiant hi at fenywod Affricanaidd-Americanaidd eraill yn llwyddo ym myd cerddoriaeth pop a ffilmiau.[1] Cyfeirir ati weithiau fel "Y Llais",[2] ac mae'n adnabyddus am ei "powerful, penetrating pop-gospel voice".[3]
Yn ystod y 1980au, Houston oedd un o'r artistiaid Africanaidd-Americanaidd cyntaf i ymddangos yn rheolaidd ar MTV, pan oedd y sianel yn dueddol o ddangos llawer mwy o gerddoriaeth roc gan ddynion gwynion. Ei halbwm cyntaf oedd yr albwm cyntaf i werthu fwyaf gan artist unigol, gan werthu dros 25 miliwn o gopïau yn fyd-eang. Aeth ei hail albwm yn syth i rif un y Billboard 200 a dyma oedd y tro cyntaf i artist benywaidd wneud hynny. Llwyddodd i gael saith rhif un yn olynol ar y siart Billboard Hot 100.